Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol.
Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.
Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer y rhaglen ymchwil tair blynedd, ‘Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus’.
Bydd y rhaglen yn edrych ar ffyrdd y gall cyfranogiad pobl mewn gweithgareddau democrataidd, llywodraethu cydweithredol a gwyddoniaeth y dinesydd fynd i’r afael â chyd-heriau brys.
Mae’r rhaglen yn cynnwys pedair thema ymchwil:
- Gweithleoedd a democratiaeth gyfranogol Bydd yn canolbwyntio ar yr Agenda Gwaith Teg, gan gynnwys y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud i symud tuag at fod yn Genedl Gwaith Teg.
- Hawliau, ffoaduriaid a chymunedau ar y cyrion Bydd yn archwilio rôl sefydliadau cymdeithas sifil wrth gefnogi ffoaduriaid a goruchwyliaeth y wladwriaeth ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Llywodraethu cydweithredol a gwleidyddiaeth gydgynghorol Bydd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi dinasyddion i ymgysylltu’n gydweithredol wrth lunio polisïau ac i atal polareiddio.
- Economïau lleol ac arloesedd yn seiliedig ar le Bydd yn edrych ar ffyrdd o gynnwys actorion economaidd wrth ddatblygu arweinyddiaeth, gwytnwch a chyfalaf lleol i gefnogi twf economaidd.
Caiff y themâu hyn eu cefnogi drwy ddatblygu Lab Data WISERD sy’n seiliedig ar leoedd ac sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Bydd hyn yn cefnogi casglu data dan arweiniad y gymuned i alluogi dinasyddion, cymunedau a llunwyr polisïau i chwarae eu rhan mewn prosiectau cyd-gynhyrchu.
Bydd canlyniadau’r ymchwil yn cyfrannu at bolisi ac arferion sy’n galluogi dinasyddion i gyfranogi’n llawn, yn dyfnhau’r ymwneud â gwyddoniaeth y dinesydd, ac yn y pen draw, yn galluogi cymunedau lleol i ddefnyddio asedau ac adnoddau mewn ymateb i heriau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol. Bydd WISERD hefyd yn parhau i ehangu ei rwydweithiau ymchwil ryngwladol a chymdeithas sifil.
Dywedodd y prif ymchwilydd a chyd-gyfarwyddwr WISERD, Rhys Davies:
Mae ymchwil ryngddisgyblaethol WISERD eisoes wedi cael effaith enfawr ar y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyllid newydd hwn yn ein galluogi i ehangu a chryfhau’r gwaith ymhellach fyth, yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, cydweithio a gwyddoniaeth y dinesydd, wrth i ni weithio’n ddyfnach gyda’n rhwydweithiau o bartneriaid cymdeithas sifil sydd ar gynnydd.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Anwen Elias: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r rhaglen ymchwil newydd hon, fydd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid academaidd a chymunedol yng Nghymru a thu hwnt ar faterion yn ymwneud â chyfranogi a phartneriaeth mewn cymdeithas sifil. Bydd y cyllid yn ein cynorthwyo i ddatblygu dulliau arloesol o gynnwys dinasyddion a chymunedau mewn llywodraethu lleol a chenedlaethol”.
Ym Mhrifysgol Bangor, bydd cyllid newydd yr ESRC yn galluogi WISERD i ymestyn y ffocws ymchwil presennol ar gefnogaeth cymdeithas sifil i gymunedau ar y cyrion a’u profiad o lefelau niferus o anfantais, yn ogystal â sylw niweidiol y wladwriaeth – er enghraifft, arferion gwyliadwriaeth cynyddol y wladwriaeth. Yma, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Yn ogystal, gan weithio gyda Chanolfan Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, bydd WISERD yn mapio arloesedd a gyd-gynhyrchwyd mewn economïau lleol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy, atal llifogydd, ymatebion i lygredd, a rheoli tir.
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Bangor, yr Athro Martina Feilzer: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i barhau ag ymchwil ar brofiadau cymunedau ar y cyrion a rôl cymdeithas sifil wrth feithrin gwytnwch a sefyll yn erbyn ymylu o’r fath.”
Ychwanegodd Dr Robin Mann, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Bangor: “Yn yr un modd, rydyn ni’n ceisio dangos sut mae arloesi cymunedol yn cyfrannu at gynaliadwyedd. Byddwn yn croesawu ymchwilydd newydd i Fangor ar gyfer y prosiectau cyffrous hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf.”
Ym Mhrifysgol Caerdydd, agwedd allweddol ar y gwaith fydd cynyddu seilwaith data WISERD drwy ei Lab Data. Dywedodd cyd-gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Scott Orford: “Bydd cyd-greu data agored cymunedol, dangosfyrddau data a llwyfannau mapio sy’n mynd i’r afael ag anghenion sefydliadau cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid cymunedol yn cyflawni ymchwil arloesol ac yn darparu sylfaen ar gyfer cydweithio ar ymchwil yn y dyfodol”.
Ym Mhrifysgol De Cymru, bydd y prosiect diweddaraf yn mabwysiadu’r dulliau rhyngddisgyblaethol, cymysg a chymharol a ddatblygwyd yn y cyfnodau ariannu blaenorol.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol De Cymru, yr Athro Gary Higgs: “Mae ymchwil hyd yma wedi cynnwys gwella mesurau hygyrchedd sy’n seiliedig ar GIS mewn ystod eang o wasanaethau cyhoeddus a phreifat.
“Sail y gwaith yw’r angen i gael darlun llawnach o oblygiadau tegwch y ddarpariaeth sy’n gyfrifol am argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus a nodweddion y gwasanaeth. Bydd cyfuno trafnidiaeth gyhoeddus â dulliau teithio eraill yn ein helpu i ddeall yn well yr anghydraddoldebau o ran mynediad at gyfleoedd gwaith ac addysg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, a gwasanaethau hanfodol dydd i ddydd.”
Bydd tîm Prifysgol Abertawe, dan arweiniad cyd-gyfarwyddwyr WISERD yr Athro Nigel O’Leary a Dr Matthew Wall, yn arwain ymchwil ac ymarfer arloesol ar y croestoriad rhwng adnewyddu democrataidd ac economaidd.
Dywedodd yr Athro Nigel O’Leary: “Yn yr ymchwil aml-thema a thrawsddisgyblaethol hon, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu polisïau sy’n gwella datblygiad economaidd cynhwysol, yn lleihau gwendidau, ac yn meithrin ffurfiau o gyfalaf cymunedol fel cyfrwng ar gyfer twf economaidd a chymdeithasol.
“Bydd hwn yn gyfle cyffrous i lunio a chyflwyno set uchelgeisiol o becynnau gwaith ag effeithiau pellgyrhaeddol a chanlyniadol ar draws economeg, addysg a pholisi cymdeithasol.”
Ychwanegodd Dr Matthew Wall: “Drwy’r gwaith hwn, y nod yw pontio ymchwil academaidd gydag atebion ymarferol sy’n grymuso cymunedau ac yn gwella cyfranogiad democrataidd wrth ymdrin â heriau economaidd pwysig.”