Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol


Anwen Alias speaking at event.

Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu tri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: rhagor o ddatganoli, DU ffederal a Chymru annibynnol. Mae Cyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias, yn aelod o’r Comisiwn ac yn rhan o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar ôl rhyddhau’r adroddiad, cynhaliwyd digwyddiad dan gadeiryddiaeth Dr Elias: ‘Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol: Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru’. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd ac roedd llawer o lunwyr polisi a phobl o bob argyhoeddiad gwleidyddol yn bresennol – gan gynnig cyfle i drafod, mewn ymateb i’r adroddiad a hefyd y goblygiadau i bolisi Plaid Cymru o annibyniaeth i Gymru.

Fel rhan o’r digwyddiad, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau CWPS ar Ddyfodol Cyfansoddiadol, a fydd yn ystyried llywodraethu Cymru yn y dyfodol o wahanol safbwyntiau ac yn rhoi cyfleoedd i drafod ymhellach y gwahanol opsiynau sy’n cael eu cyflwyno gan yr adroddiad newydd.

Dywedodd Dr Anwen Elias cyd-gyfarwyddwr WISERD ac aelod o’r Comisiwn:

Dechreuodd y Comisiwn Annibynnol y sgwrs genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ond rhaid i’r drafodaeth barhau nawr bod y Comisiwn wedi gorffen ei waith. Fel canolfan ymchwil, rydym ni eisiau chwarae ein rhan i helpu hynny i ddigwydd.

Mae pobl yng Nghymru eisiau siarad am sut mae eu gwlad yn cael ei llywodraethu; drwy ein cyfres o ddigwyddiadau ar ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ rydym ni’n edrych ymlaen at greu cyfleoedd i’r drafodaeth barhau.


Rhannu