W. John Morgan sy’n adolygu ‘The Russo-Ukrainian War’


Cafodd adolygiad newydd o lyfr The Russo-Ukrainian War, gan W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme yn WISERD ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Eurasian Geography and Economics yn gynharach eleni. Mae’r Athro Morgan wedi cyhoeddi’n rheolaidd ar yr Undeb Sofietaidd ac ar Rwsia gyfoes. Mae ganddo ddoethuriaeth er anrhydedd o Sefydliad Cymdeithaseg Academi Gwyddorau Rwsia.

Mae The Russo-Ukrainian War gan Serhii Plokhy, Athro Hanes ym Mhrifysgol Harvard a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Wcráin Harvard, yn cyflwyno ‘adroddiad ysgolheigaidd cytbwys o darddiad, datblygiad a goblygiadau’r Rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin’, meddai’r Athro Morgan. Gan ymdrin â’r cyd-destun hanesyddol diweddar gan gynnwys cyfeddiannu anghyfreithlon Crimea yn 2014 a’r rhyfel ar raddfa lawn a gafodd ei lansio gan Rwsia o dan Putin yn 2022, i Wcráin yn amddiffyn ei hun a’i hymdrechion i daro’n ôl, mae’r Athro Morgan yn haeru bod y llyfr hwn yn ‘gyflawniad ysgolheigaidd arwyddocaol o dan yr amgylchiadau’ ac mae’n ‘sefyll allan fel yr adroddiad mwyaf gwybodus a mwyaf dibynadwy sydd ar gael eto’.

Mae W. John Morgan hefyd yn Athro Emeritws yn Ysgol Addysg Prifysgol Nottingham, lle’r oedd yn Gadeirydd Economi Wleidyddol Addysg UNESCO; ac Athro er Anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau Addysg Prifysgol Iorddonen.

The Russo-Ukrainian War, gan Serhii Plokhy, 2023, Llundain, Allen Lane, Penguin Books, 2023, xxii & 376 pp., £25.00 (Clawr Caled), £9.49 (Clawr Meddal), £7.99 (Kindle), ISBN-10: 0241617359, ISBN-13: ‎ 978-0241617359.


Rhannu