Cynhadledd Ymchwil ar Dai Cymru 2022


Ar 19 Rhagfyr, cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Tai Cymru 2022 yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd. Roedd yn gyfle i gynrychiolwyr ddod ynghyd a rhannu tystiolaeth ymchwil o rai o’r materion mwyaf pwysig sy’n ymwneud â thai Cymru.

A hithau wedi’i chynnal gan Rwydwaith Ymchwil Tai Cymru WISERD ar y cyd â Chanolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai a Shelter Cymru, daeth y gynhadledd eleni â chynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt at ei gilydd er mwyn iddynt allu cydweithio a rhannu ymchwil gydag eraill sy’n gweithio yn y sector tai.

Bu i’r gynhadledd eleni roi sylw i amrywiaeth eang o bynciau. Dechreuodd y gynhadledd â dwy sesiwn lawn fewnweledol gan Katie Dalton o Cymorth Cymru a Dr Sophus zu Ermgassen o Brifysgol Rhydychen. Canolbwyntiodd sesiwn Katie ar effeithiau difrifol yr argyfwng costau byw ar ddigartrefedd rheng flaen a gweithwyr cymorth tai yng Nghymru. Rhoddodd Katie lais cryf i’w haelodau, wrth iddi barhau i ymgyrchu dros bolisi i atal digartrefedd yn y gymuned ehangach. Canolbwyntiodd sesiwn Sophus ar yr angen am gartref i bawb o fewn ffiniau’r blaned drwy nodi ffyrdd o ddiwallu anghenion y DU o ran tai, heb fynd yn erbyn nodau newid yn yr hinsawdd, ac atal gwrthdaro rhwng amcanion tai a chynaliadwyedd.

Yn dilyn y sesiynau llawn, dechreuodd y rownd gyntaf o sesiynau cyfochrog â thair seminar ddiddorol ar wahanol faterion cyfoes ym maes tai. Cyflwynodd Peter Mackie (cynullydd Rhwydwaith Ymchwil Tai Cymru WISERD) gasgliadau ynghylch digartrefedd yn ystod y pandemig ac enghreifftiau o sut mae gwaith cysylltu data’n cael ei ddefnyddio i roi tystiolaeth sy’n berthnasol i bolisïau. Cafwyd nifer o gyflwyniadau eraill ar yr un pryd, a hynny ar ymchwil ym meysydd fel adeiladu tai a digartrefedd ymhlith pobl LHDT+ a phobl ifanc.

Cafwyd sesiynau llawn yn y prynhawn – un gan yr Athro Flora Samuel o Brifysgol Reading ar bwysigrwydd ymgynghori â’r gymuned er ansawdd bywydau. Nod y prosiect hwn yw cyflwyno model ar sail map o waith ymgysylltu â’r gymuned er mwyn galluogi pobl i fesur ac asesu effaith newidiadau i’w cymdogaethau. Yn dilyn hyn, bu i Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai, Ken Gibb, roi cipolwg ar reoli rhent a gwneud cyfraniadau gwerthfawr at drafodaethau presennol ar bolisi.

I gloi’r diwrnod, cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn tair sesiwn gyfochrog arall. Trafododd Jonathan Clode a Jennie Bibbings, ill dau o Shelter Cymru, sut i atal troi allan oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ymyrryd yn effeithiol a delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ffordd fwy cyfannol. Bu i’r sesiynau cyfochrog eraill ganolbwyntio ar sicrhau newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bolisïau ac ymarfer, yn ogystal â sefydlogrwydd ontolegol ymhlith plant yn sector rhentu preifat ansicr ac anrheoleiddiedig Prydain sy’n dod yn fwyfwy anfforddiadwy.

 

Mae WISERD wedi bod yn cefnogi’r gynhadledd hon ers 2010, ac edrychwn ymlaen at iteriad nesaf y digwyddiad cydweithredol hwn ar gyfer y sector cyfan.


Share