Addysg Uwch Cymru Brwsel yn cynnal WISERD ar ymweliad astudio


Pictured left to right: Catherine Marston (WHEB), Lelia Toma, Annie Tubadji, Ian Thomas, Alexandra Sandu, Rhian Barrance, Nick Hacking, Sioned Pearce, Robin Mann, Flossie Caerwynt and Catrin Wyn Edwards (WISERD) in front of a brightly coloured wall in Brussels

Ym mis Mehefin, cynhaliodd Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) grŵp o ymchwilwyr cynnar a chanol eu gyrfa o WISERD, fel rhan o’u gwaith yn cefnogi rhwydweithio ymchwilwyr ar gyfer ceisiadau cyllido yn y dyfodol i Horizon Europe a rhaglenni cyllido eraill.

Cafodd y grŵp, o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyfarfodydd gyda sefydliadau Ewropeaidd allweddol, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a Chydweithrediad Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (COST). Aethant hefyd i sesiynau briffio gan Swyddfa Ymchwil y DU, Cymdeithas Sifil Ewrop a Dirprwyaeth Catalwnia i’r UE.

Rhannwyd gwybodaeth am raglenni a chyfleoedd cyllido Ewropeaidd, gan gynnwys Horizon Europe, a thrafodwyd materion ymchwil Ewropeaidd ehangach fel AI, polisi rhanbarthol ac iaith. Rhoddwyd cyflwyniad i ymchwilwyr hefyd gan Wasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop, gyda gwybodaeth ar sut y gallent gyfrannu eu hymchwil at waith y Gwasanaeth.

Dywedodd Dr Rhian Barrance o Brifysgol Caerdydd, oedd yn rhan o’r ddirprwyaeth:

Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu am ffynonellau cyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil a sut i fanteisio ar rwydweithiau ymchwil Ewropeaidd presennol. Roedd hefyd yn ddiddorol clywed sut mae Senedd Ewrop yn defnyddio ymchwil a sut y gall ymchwilwyr gymryd rhan yn hyn.

 

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Catherine Marston (WHEB), Lelia Toma, Annie Tubadji, Ian Thomas, Alexandra Sandu, Rhian Barrance, Nick Hacking, Sioned Pearce, Robin Mann, Flossie Caerwynt a Catrin Wyn Edwards (WISERD).


Share