Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD


Christina Beatty giving keynote presentation at WISERD Annual Conference 2024.

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas decach.’

Roedd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol De Cymru, wedi agor y gynhadledd gyda’i anerchiad croeso. Ar ôl hynny, cyflwynodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones yr Athro Christina Beatty o’r Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol, a roddodd gyflwyniad difyr dros ben ar anweithgarwch economaidd. Roedd cyflwyniad yr Athro Beatty yn canolbwyntio ar hen ardaloedd glo, ardaloedd diwydiannol hŷn a threfi glan môr ym Mhrydain, ac mae pob un ohonyn nhw’n dangos daearyddiaeth barhaus anweithgarwch economaidd dros amser.

Dros y deuddydd, cafwyd rhaglen lawn o gyflwyniadau a oedd yn edrych ar wahanol agweddau ar degwch a chydraddoldeb, mewn meysydd fel cyflogaeth, tai, addysg, iechyd, yr amgylchedd, troseddu, trafnidiaeth a pholisi cymdeithasol, ac roeddent hefyd yn mynd i’r afael â phryderon polisi ehangach mewn gwahanol sectorau. Er bod y cyflwyniadau’n cydnabod bod gan Gymru ei set unigryw ei hun o heriau, roeddent hefyd yn defnyddio astudiaethau achos o astudiaethau cenedlaethol a rhyngwladol ehangach i ystyried effeithiolrwydd dulliau polisi mewn cyd-destunau eraill.

Drwy fynd i’r afael â materion amserol, gan gynnwys rôl deallusrwydd artiffisial a thargedau wedi’u hanelu at yr agenda sero net, roedd cyflwyniadau hefyd yn tynnu sylw at rôl ymchwil WISERD wrth fynd i’r afael ag ystod eang o heriau hinsawdd, amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, ym Mhrifysgol De Cymru, lle cynhaliwyd cynhadledd eleni, mae WISERD yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu ymchwilwyr sydd â sgiliau allweddol mewn methodolegau meintiol a GIS i fynd i’r afael â phroblemau byd go iawn, yn ogystal â rôl ehangach y sefydliad mewn mentora a meithrin gallu yn y gwyddorau cymdeithasol.

Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf cafwyd trafodaeth bwrdd crwn ar ymchwil sy’n seiliedig ar leoedd gyda’r Athro Mike Woods (Prifysgol Aberystwyth), Dr Tom Avery (Prifysgol Abertawe), yr Athro Alec Shepley (Prifysgol Wrecsam), Dr Sarah Morse (Senedd Cymru), a dan gadeiryddiaeth yr Athro Jonathan Bradbury. Trefnwyd y sesiwn gan Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol Prifysgol Abertawe (LCRO) a Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Leol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Nod y drafodaeth oedd ystyried yn feirniadol sut gall sefydliadau addysg uwch harneisio eu galluoedd ymchwil i gyfrannu’n fwy strategol at eu lleoedd lleol y tu hwnt i genhadaeth ddinesig a busnes fel arfer.

Ar yr ail ddiwrnod, un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd cyhoeddi enillwyr ein Cystadleuaeth Poster PhD:

  • Y wobr 1af: Ella Rabaiotti, Prifysgol Abertawe. Teitl y poster: Archwilio posibiliadau tocynnau ffisegol heb fod yn arian parod (‘BillyChips’) fel Ymyriad Iechyd Cyhoeddus.
  • Yr 2il wobr: Ellie Rogers, Prifysgol Abertawe. Teitl y poster: Trechu Eithafiaeth Ar-lein: Ehangu Gwrth-leferydd drwy Algorithmau.
  • Y 3ydd gwobr: Emma Wheeler, Prifysgol De Cymru. Teitl y poster: Ffenestr Ôl-weithredol: Edrych ar Addysg Oedolion ar gyfer Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn Sylfaen.

Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i greu poster ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni drwy drafod eu hymchwil gyda’n panel adolygu. Diolch yn fawr i’n beirniaid arbenigol: Dr Barbara Ibinarriaga Soltero o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Athrawon Gary Higgs a Mitch Langford o Brifysgol De Cymru. Diolch hefyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac Ysgol Graddedigion y Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghymru am noddi’r digwyddiad blynyddol hwn.

Diolch arbennig hefyd i’n holl arddangoswyr a’n cefnogodd gyda’r digwyddiad ac a rannodd eu hamser yn siarad â’r cynadleddwyr: Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol, YDG Cymru, Llywodraeth Cymru a Policy Press.

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD yn un o’n pum prifysgol bartner gwahanol bob blwyddyn (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe). Mae’n gyfle gwych i ddod ag ymchwilwyr ynghyd ar bob cam o’u gyrfaoedd, gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr o lawer o wahanol sectorau ar draws y DU a’r tu hwnt. Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o waith rhyngddisgyblaethol pwysig sy’n cael ei wneud yn y gwyddorau cymdeithasol ac mae’n gyfle i ni gydweithio’n well i greu newid a chyflawni cymdeithas decach.

 


Share