Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026 – Galwad am Bapurau AR AGOR


Happy child boy running with kite at sunset outdoors stock photo

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod yr alwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026 ym Mhrifysgol Caerdydd – Dydd Mercher 8 a Dydd Iau 9 Gorffennaf.

 

Ar Drywydd Dyfodol Cynaliadwy

Mae dros ddegawd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym. Ystyrir yn eang ei bod yn ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd, gan gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant hirdymor cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Yr uchelgais yw creu Cymru sy’n fwy llewyrchus, cydnerth, cyfartal ac yn iachach; cenedl â chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu, ac un sy’n gweithredu’n fyd-eang fel aelod cyfrifol o’r byd.

Mae sawl hollt cymdeithasol, sydd wedi’u dwysáu gan argyfyngau byd-eang diweddar, yn tanlinellu pwysigrwydd yr amcanion llesiant hyn. Ac eto mae galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol parhaus yn gosod pwysau cynyddol ar y sefydliadau sydd â’r dasg o gyflawni’r amcanion. Yn y cyd-destun hwn ac ar ddechrau cyfnod newydd i Senedd Cymru, mae Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni’n dymuno archwilio heriau cyfoes allweddol a nodi’r polisïau a’r arferion sydd eu hangen i gefnogi nodau datblygu economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yng Nghymru a thu hwnt.

Gwahoddwn gyfraniadau sy’n mynd i’r afael yn feirniadol â’r materion hyn ac sy’n cynnig cipolwg ar sut y gall Cymru – a’r byd ehangach – hyrwyddo llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Gyda ffocws cryf ar lwybrau’r dyfodol, mae hon yn alwad fwriadol eang er mwyn adlewyrchu cymhlethdod a chydgysylltiad llesiant yn y gymdeithas gyfoes. Gan adlewyrchu saith nod llesiant y Ddeddf a’i phwyslais ar ffyrdd gwell o weithio, mae croeso arbennig i gyfraniadau sy’n myfyrio ar y pynciau canlynol:

  1. Llewyrch: cyfranogi a dilyniant mewn addysg a hyfforddiant; gweithgarwch economaidd, cyfranogi yn y farchnad lafur; gwaith teg.
  2. Gwydnwch: trawsnewidiadau cyfiawn; nwyddau amgylcheddol; polisi newid hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd; cyfiawnder gofodol.
  3. Cydraddoldeb: dinasyddiaeth; hawliau; haenu dinesig; tlodi; bywioldeb.
  4. Iechyd a Llesiant: iechyd; gofal cymdeithasol; tai a digartrefedd.
  5. Cydlyniant Cymunedol: cymunedau ymyledig; daearyddiaethau anghydraddoldeb; troseddu, cyfiawnder troseddol a chynhwysiant cymdeithasol; hygyrchedd; trafnidiaeth.
  6. Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth: mudo; symudedd; cenedlaetholdeb; hunaniaeth; diwylliant; treftadaeth; cyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
  7. Cyfrifoldeb Byd-eang: cadwyni cyflenwi; caffael; gwerth cymdeithasol; cyfiawnder cymdeithasol.
  8. Ffyrdd o Weithio: ymchwil gyfranogol a gweithredol; democratiaeth ystyriol; llywodraethu cydweithredol; deialog a llais; gwyddoniaeth dinasyddion; cyd-gynhyrchu; partneriaeth gymdeithasol; tystiolaeth ac effaith.

Eleni gwahoddwn gynigion am gyflwyniadau papur unigol, gweithdai/sesiynau rhyngweithiol, symposia neu bosteri. Mae croeso hefyd i gyfraniadau sy’n berthnasol i thema dyfodol cynaliadwy ond nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr uchod.

Rydym yn arbennig o awyddus i gael cyflwyniadau gan ymchwilwyr ôl-raddedig, PhD ac ar ddechrau eu gyrfa, gyda sesiynau Ymchwilwyr Newydd pwrpasol yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad ag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru (CDC).

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau yw 9am ddydd Llun, 30 Mawrth.

Gweld y Galwad am Bapurau.

 

Credyd delwedd: evgenyatamanenko trwy iStock.


Rhannu