Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026


Rebecca Coleman keynote at WISERD Annual Conference 2026

Ar ddydd Mercher 8 a dydd Iau 9 Gorffennaf, cynhaliwyd 16eg Cynhadledd Flynyddol WISERD yn Adeilad Bute Prifysgol Caerdydd, gan groesawu dros 170 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda yn cynnwys dros 60 o gyflwyniadau papur, saith sgwrs fer, tair sesiwn lawn, sawl panel, gweithdai a symposia, a dangosiad ffilm unigryw, i gyd o dan y thema ‘Ar Drywydd Dyfodol Cynaliadwy’.

WISERD Annual Conference 2026 - presentation during Early Career Researcher Session

Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau ymchwilwyr newydd yn y gynhadledd y llynedd, roedd yr agenda eleni unwaith eto yn cynnwys sesiynau yn benodol ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a noddwyd ar y cyd gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yr ESRC a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, gan adlewyrchu ymrwymiad WISERD a’i bartneriaid i gefnogi datblygiad ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru.

Roedd sesiynau ymchwilwyr newydd eleni hefyd yn cynnwys dychweliad Arddangosfa Posteri PhD WISERD, a oedd yn cael ei harddangos trwy gydol y digwyddiad, gan gynnig cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa drafod eu hymchwil gyda chynrychiolwyr mewn lleoliad anffurfiol, un-i-un, a chael adborth adeiladol ar sut i ddatblygu eu gwaith.

WISERD Annual Conference 2026 - Poster Exhibition

Cynhaliwyd y digwyddiad eleni ddegawd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym. Ystyrir yn eang ei bod yn ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd, gan gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant hirdymor cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

WISERD Annual Conference 2026 - Derek Walker Keynote in Exhibition Space

Gydag anerchiad cynnar gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a phrif banel, yn cynnwys Joe Rossiter o’r Sefydliad Materion Cymreig, Caer Smyth o Brifysgol Caerdydd, ac Anwen Elias a Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, cafwyd digon o gyfleoedd drwy gydol y digwyddiad i drafod a myfyrio’n feirniadol ar y Ddeddf.

Gan barhau yng nghyd-destun y Ddeddf, roedd sesiynau cyfochrog dros ddau ddiwrnod yn edrych ar bopeth o gyfranogiad gwleidyddol, gweithredu er budd yr hinsawdd, ac allbynnau creadigol, i ddeallusrwydd artiffisial, allgáu cymdeithasol, a Chymru wledig. Roedd ffrwd Gymraeg bwrpasol yn cynnwys trafodaethau ynghylch diwylliant, addysg a 10 blaenoriaeth allweddol i’w rhannu gyda Llywodraeth newydd Cymru.

Rhoddodd y prif siaradwr olaf, yr Athro Rebecca Coleman o Brifysgol Bryste, bersbectif diddorol ar ‘Gwleidyddiaeth bywyd bob dydd yn y dyfodol’, a awgrymodd y posibilrwydd o ddychmygu a gweithio gyda’n gilydd i lunio dyfodol amgen, tecach a mwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf, gan gynnwys i’r rhai a allai fod wedi cael eu hymyleiddio o rwydweithiau polisi ac arloesi traddodiadol yn flaenorol.

Diolch yn arbennig i’n harddangoswyr a’n cefnogodd yn garedig gyda’r digwyddiad ac a rannodd eu hamser yn siarad â chynrychiolwyr: YDG Cymru, Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yr ESRC, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru a Chronfa Ddata SAIL.

WISERD Annual Conference 2026 - Keynote Panel

Diolch yn fawr hefyd i Flatboy (Seren Thomas), artist, darlunydd ac ymchwilydd cymdeithasol o Gaerdydd a ganiataodd inni arddangos eu gwaith celf drwy gydol y digwyddiad. Comisiynwyd Map of Dreams gan Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol a’i greu mewn ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.

Dywedodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Adam Hedgecoe: “Roedden ni’n falch o gael croesawu cynifer o gydweithwyr, o WISERD a’r gymuned ehangach, i Brifysgol Caerdydd eleni. O’r prif areithiau rhagorol i’r sesiynau gydag ymchwilwyr newydd, aeth y gynhadledd ati i archwilio cyd-destun, effaith a chynnydd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol drwy ddwsinau o bapurau cyffrous, gan edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf o wyddorau cymdeithasol yng Nghymru.”

WISERD Annual Conference 2026 - delegates watching Keynote Panel

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD mewn un o’n pum prifysgol bartner bob blwyddyn (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe). Mae’n rhoi cyfle i ddod ag ymchwilwyr ym mhob cam o’u gyrfaoedd ynghyd, gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr o lawer o sectorau gwahanol ledled y DU a’r tu hwnt. Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr ystod o waith rhyngddisgyblaethol pwysig sy’n cael ei wneud yn y gwyddorau cymdeithasol ac yn rhoi cyfleoedd inni weithio’n well gyda’n gilydd i effeithio ar newid a chyflawni cymdeithas decach.

 

Gweld oriel luniau’r digwyddiad.

Credyd delwedd: Darren Britton, WNS News Ltd


Rhannu