Llongyfarchiadau i gyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi’i phenodi’n gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Cafodd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ei greu yn sgil argymhelliad yn adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Argymhellodd yr adroddiad fod panel arbenigol yn cael ei greu i gynghori Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar ehangu’r defnydd o arloesi democrataidd, a chynyddu’r cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â bywyd cyhoeddus.
Roedd Dr Elias yn gomisiynydd ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn y rôl honno, cyfrannodd arbenigedd penodol ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd, yn enwedig wrth sefydlu’r paneli dinasyddion a llunio’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned. Trwy ei phrofiad yn gomisiynydd, bydd yn sicrhau y bydd canfyddiadau’r Comisiwn yn parhau i ddylanwadu ar waith y Grŵp Cynghori ar Ddemocratiaeth Arloesol.
Meddai Dr Anwen Elias am ei phenodiad: “Mae’n anrhydedd cael gwahoddiad i gadeirio’r grŵp newydd hwn. Rwy’n gobeithio y gall y grŵp adnabod cyfleoedd newydd i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ar y cyd ag eraill ledled Cymru sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ar gynnwys y cyhoedd, a chynnal trafodaethau â nhw.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Natganiad y Cabinet ar wefan Llywodraeth Cymru.