Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi bydd y cymdeithasegydd diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont, o Brifysgol Harvard yn ymweld â WISERD rhwng 24 a 26 Mawrth, yn rhan o’i rôl yn Athro Gwadd Leverhulme.
Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys cyflwyniad a gweithdy gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd cyn i’r Athro Lamont deithio i Brifysgol Bangor, lle bydd ail drafodaeth a chyfleoedd i gydweithwyr drafod eu hymchwil gyda’n hymwelydd.
Mae’r Athro Lamont yn cael ei chydnabod a’i chanmol yn rhyngwladol am ei gwaith ar foesoldeb, ffiniau grwpiau, ac anghydraddoldeb. Mae hi wedi mynd i’r afael â phynciau megis urddas, parch, stigma, hiliaeth, a sut rydyn ni’n gwerthuso gwerth cymdeithasol ar draws cymdeithasau.
Astudiodd yr Athro Lamont gyda Pierre Bourdieu ac eraill ym Mharis ar ddechrau’r wythdegau a daeth i’r amlwg yn gyflym ei bod yn arloeswr yn yr astudiaeth o gymdeithaseg ddiwylliannol a chymharol, gan helpu i ddiffinio’r meysydd hyn fel yr ydyn ni’n eu hadnabod heddiw.
Ymunwch â ni i groesawu’r Athro Michèle Lamont drwy fynd i un o’n digwyddiadau:
Global Dignity and “Seeing Others: Political, Environmental and Work-Based Recognition Compared”
Dydd Llun 24 Mawrth, 17:00 – 18:30
Ystafelloedd Pwyllgor, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Ar gyfer y cyflwyniad gyda’r nos, bydd Michèle Lamont yn trafod ei llyfr, Seeing Others: How Recognition Works and How it Can Heal a Divided World” ac ymchwil gydweithredol barhaus sy’n ystyried a yw gweithwyr ifanc Americanaidd a Phrydeinig y “ddwy Fanceinion” yn chwilio am gydnabyddiaeth drwy wleidyddiaeth (a sut); sut mae pobl frodorol Canada a Micronesia yn ceisio cydnabyddiaeth drwy gyfiawnder amgylcheddol a swyddi; a’r heriau sydd ynghlwm wrth geisio cydnabyddiaeth pan nad oes modd ei chael.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle:
Gweithdy gyda’r Athro Michèle Lamont
Dydd Mawrth 25 Mawrth, 10:00 – 11:30
Ystafelloedd Pwyllgor, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle – MAE’R GWEITHDY YN LLAWN
Recognition through Politics: The Non-College Educated Workers (Aged 18-30) in Manchester, New Hampshire and Greater Manchester, United Kingdom
Dydd Mercher 26 Mawrth, 13:00
Yr Ystafell Roegaidd, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn.