Jean Jenkins, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, i gyflwyno yng Ngŵyl y Gelli eleni ddydd Mawrth 28 Mai.
Mae Jean yn gweithio ar brosiect Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang a ariennir gan Lywodraeth y DU gyda WISERD, sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd o gael gafael ar ddatrysiad ar gyfer gweithwyr dillad yn y gadwyn gyflenwi dillad y dyddiau hyn. Mae ei chyflwyniad, Parhau i frwydro yn erbyn ‘Diwydiant y Parasitiaid’, yn bwrw goleuni ar yr ecsbloetio aruthrol sy’n ffynnu wrth gynhyrchu dillad a sut mae gweithwyr yn ei chael yn anodd ymladd yn ôl.
Gŵyl lenyddiaeth flynyddol yw Gŵyl y Gelli a gynhelir yn y Gelli Gandryll. Yn 2019, cynhelir yr wŷl rhwng 23 Mai a 2 Mehefin a disgwylir i 110,000 o bobl ymweld â’r wŷl yng Nghymru. Ewch i wefan Gŵyl y Gelli i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad eleni ac i brynu tocynnau.