Mewn cydweithrediad newydd cyffrous, mae data UnionMaps WISERD wedi’u hintegreiddio i Strike Map, map o weithredu diwydiannol sy’n cael ei ysgogi a’i ariannu gan weithwyr, sydd wedi mapio 230,000 o streiciau ers 2020. Bydd ymarferoldeb cyfunol y ddau blatfform yn caniatáu i ddefnyddwyr weld cryfder undebau yn yr ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd.
Dywedodd Rhys Davies, cyd-gyfarwyddwr WISERD ac uwch gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae data o UnionMaps yn datgelu’r patrymau a’r tueddiadau cymhleth o ran aelodaeth undeb sy’n bodoli ar draws Prydain Fawr. Rydyn ni’n falch iawn bod y data yma wedi’u hintegreiddio i Strike Map i gefnogi gwaith gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr undebau llafur a fydd bellach yn gallu cael mynediad at ystadegau manwl am gryfder undebau mewn ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd i arwain eu gwaith.”
Fel y dangosir yn y sgrinlun isod, bydd data UnionMaps bellach yn dangos gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol am bŵer a chryfder undeb ar gyfer pob streic, gan gynnwys:
- Presenoldeb undeb — canran y gweithwyr sy’n aelod o undeb llafur neu sy’n cael eu cyflogi mewn gweithle lle mae eraill yn aelodau.
- Aelodaeth o undeb — canran y gweithwyr sy’n aelod o undeb llafur.
- Cwmpas undeb — canran y gweithwyr sy’n datgan bod eu cyflogwr ac undeb llafur yn negodi telerau cyflog ac amodau gwaith.
- Cytundeb cyfunol — canran y gweithwyr mae eu cyflog wedi’i osod yn unol â chytundeb sy’n effeithio ar fwy nag un gweithiwr.
Dywedodd cyd-sylfaenydd Strike Map, Henry Fowler: “Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein map a sicrhau ei fod yn cefnogi ymgyrchwyr i ennill eu dadleuon, ymgyrchoedd, ac ail-gydbwyso pŵer yn ein gwlad. Mae UnionMaps yn cyflwyno data allweddol ar gryfder cyfunol ein mudiad ar gyfer ardaloedd daearyddol manwl, gan gynnwys aelodaeth o undebau llafur a chwmpas cytundebau cyfunol. Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu ychwanegu’r data newydd hyn at ein map fel y gall cannoedd o filoedd o’n cefnogwyr ddeall cryfder a phŵer eu hundeb llafur lleol mewn ardaloedd lle mae streiciau’n digwydd.”
Ewch i Strike Map i ddod o hyd i streiciau lleol yn eich ardal chi a gweld yr UnionMaps wedi’u hintegreiddio.
Credyd delwedd: Henry Fowler, Strike Map, gwrthdystiad Streic y Biniau Birmingham, 20 Medi 2025