Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno ar Agenda Strategol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2024-29, a fydd yn ceisio sicrhau “Ewrop gadarn, ddeinamig, gystadleuol a chydlynol mewn byd sy’n newid”.
Yn y datganiad o gyfarfod cychwynnol ym mis Hydref y llynedd, dywedodd y Cyngor, “byddwn yn rhagweld heriau posibl ac yn manteisio ar y cyfleoedd i’n Hundeb yn y trawsnewidiadau gwyrdd a digidol, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein model economaidd, gan adael neb ar ôl”.
Daeth cydweithwyr o rwydweithiau Ewropeaidd, a llywodraethau a phrifysgolion rhanbarthol o Ewrop i weithdy WISERD-WHEB, a gynhaliwyd yn Nhŷ Cymru ym Mrwsel, lle buont yn archwilio rôl cymdeithas sifil wrth adeiladu Ewrop gadarn, ddeinamig a chydlynol. Cyflwynwyd achos dros roi cymdeithas sifil wrth wraidd yr agenda newydd gan ymchwilwyr o’n Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil a ariennir gan ESRC a’r rhai sy’n ymwneud â phrosiectau a ariennir gan Horizon 2020.
Drwy raglen o gyflwyniadau byr, a oedd yn dangos y cysylltiadau rhwng ymchwil ddiweddaraf WISERD i gymdeithas sifil a blaenoriaethau allweddol polisi Ewropeaidd, nododd ein hymchwilwyr syniadau ynghylch sut y gall sefydliadau cymdeithas sifil ac ymgyrchwyr gyfrannu at yr agenda newydd, a sut y gellir eu cefnogi i wneud hynny.
Roedd y cyfraniadau’n canolbwyntio ar adeiladu economïau cadarn a chynhwysol, gwella cydlyniant cymdeithasol, a rheoli’r trawsnewid digidol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Astudiaethau achos ar yr Economi Sylfaenol yn Amsterdam, Zagreb a’r DU;
- Dadansoddiad o ddogfennau polisi’r UE a sylwebaethau cymdeithas sifil ar Ddeallusrwydd Artiffisial;
- Ymchwil gyda sefydliadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Tsiecia, Cymru a Lloegr;
- Cymharu fframweithiau UNICEF ar gyfer dinasoedd sy’n dda i blant yn Ffrainc, Lloegr ac UDA;
- Dadansoddiad meintiol o anghydraddoldebau tiriogaethol ar draws Ewrop ac ymchwil ansoddol ar ymatebion cymdeithas sifil;
- Astudiaethau achos o gamau gweithredu cymdeithas sifil i wrthsefyll polareiddio yng Nghymru ac Iwerddon;
- Gwaith arloesol gyda chymunedau gan ddefnyddio data hyperleol yng Nghymru.
Mae’r prosiectau WISERD hyn wedi cynnwys ymchwilwyr yn y pum prifysgol yng Nghymru sy’n rhan o WISERD – Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a De Cymru – a phartneriaid o bob cwr o’r DU, Ewrop a’r byd.
Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd cydweithwyr WISERD ac Addysg Uwch Cymru Brwsel gyfle i drafod y blaenoriaethau sy’n debygol o fod yn rhan o dair blynedd olaf rhaglen Horizon Ewrop, er mwyn helpu i lunio ymgysylltiad â’r rhaglen yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD:
Gyda’r Agenda Strategol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd ar fin cael ei chwblhau, mae hwn yn gyfle gwych i ymchwilwyr WISERD gyflwyno canfyddiadau o raglenni ymchwil a ariennir gan ESRC a Horizon yr UE i ystod eang o gydweithwyr sy’n gweithio yn Ewrop.
Rwy’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Addysg Uwch Cymru Brwsel i ddarparu’r llwyfan hwn ar gyfer ein hymchwil ryngddisgyblaethol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, ac i ddangos effaith a chyrhaeddiad yr ymchwil a wneir gan brifysgolion Cymru.
Yn ogystal â chynnal y gweithdy ar y cyd yn Nhŷ Cymru, roedd tîm WISERD hefyd yn falch iawn o rannu ymchwil mewn derbyniad i gyn-fyfyrwyr ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain, a drefnwyd gan Addysg Uwch Cymru Brwsel ac a gefnogwyd gan Cymru Fyd-eang. Croesawyd y rhai a oedd yn bresennol gan Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, a Derek Vaughan, Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, a rannodd ymrwymiad Cymru i ymgysylltu â rhaglen Horizon Ewrop ac i symudedd addysgol.
Mae’r cyn-fyfyrwyr, a astudiodd mewn prifysgolion ledled Cymru, bellach yn gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd, yn Senedd Ewrop ac mewn sefydliadau a rhwydweithiau Ewropeaidd eraill, mewn amrywiaeth o feysydd polisi, gan gynnwys symudedd, ynni ac amaethyddiaeth. Cawsant gyfle i gysylltu a rhwydweithio wrth hel atgofion am eu hamser yng Nghymru.
Mae WISERD yn ddiolchgar i gydweithwyr yn Addysg Uwch Cymru Brwsel am eu cefnogaeth gyda’r digwyddiadau ac i bawb a ddaeth iddynt ac sydd wedi dangos diddordeb mewn cydweithio ymhellach.