Mae WISERD yn chwarae rhan ganolog mewn prosiect i fapio a chefnogi’r trawsnewidiad gwyrdd ar Ynys Môn a’r tu hwnt. Mae’r Platfform Mapiau Cyhoeddus (PMP) yn cychwyn ar ail gam ar ôl sicrhau grant Ecosystemau Trawsnewid Gwyrdd gwerth £3.12m gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Mae hyn yn dilyn dyfarniad cychwynnol o £4.63m yn 2023 a bydd yn caniatáu i’r prosiect barhau am 30 mis arall.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan yr Athro Flora Samuel ym Mhrifysgol Caergrawnt ac mae’n cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam.
Mae Tîm Data WISERD, dan arweiniad yr Athro Scott Orford, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gyd-arweinydd PMP, yn adeiladu platfform mapio rhyngweithiol ar-lein sy’n rhan annatod o’r prosiect. Mae’r platfform wedi’i ddylunio i ddarparu gwybodaeth hygyrch a deinamig i gymunedau, awdurdodau lleol a llunwyr polisi ar ddata cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol ynghylch y trawsnewidiad gwyrdd yng Nghymru.
Mae Tîm Data WISERD yn cael ei gefnogi gan gydweithwyr Prifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Bensaernïaeth Cymru, sy’n arwain ar weithgareddau mapio cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n bwydo data i’r platfform.
Mae’r mapiau’n cynnwys haenau ystadegol traddodiadol a ddarperir gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ond maent hefyd yn cynnwys haenau ansoddol ac amlgyfrwng wedi’u creu gan gymunedau lleol, gan gofnodi agweddau pwysig ar eu bywydau beunyddiol.
Bydd yr haenau hyn a grëwyd gan y gymuned yn cael eu gosod dros yr haenau map presennol i adeiladu map sylfaenol Cenedlaethau’r Dyfodol o Ynys Môn. Gellir clystyru’r haenau gyda’i gilydd i fesur cynnydd yr ynys yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ond gellir eu hailgyflunio i ganiatáu mesur yn erbyn fframweithiau eraill hefyd. Yn y modd hwn, bydd y prosiect yn cynnig model ar gyfer cynllunio cynhwysol a thryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnig gwersi i weddill y DU a’r tu hwnt.
Lansiwyd fersiwn beta o’r platfform ddiwedd mis Medi yn ystod gweithdy rhanddeiliaid yn y prynhawn yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ac mewn derbyniad gyda’r nos yn y Senedd, a noddwyd gan Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru ac AS Ynys Môn.
Mae’r prosiect hefyd yn ffocws arddangosfa flwyddyn o hyd “Offer ar gyfer Trawsnewid” yn Amgueddfa Ddylunio Llundain, yr aeth y tîm i’w gweld yn ddiweddar.
Bydd Cam 2 PMP yn cynnwys datblygiad parhaus y platfform gyda phwyslais ar ei wneud yn hawdd ei defnyddio gan wahanol grwpiau (e.e., plant a phobl ifanc, a rhanddeiliaid proffesiynol a grwpiau cymunedol) trwy amrywio’r golwg, y naws a’r swyddogaeth gan ddibynnu ar y defnyddiwr.
Bydd y tîm hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i wneud y platfform yn haws ei ddefnyddio, er enghraifft wrth ddod â haenau mapiau ynghyd mewn ffyrdd ystyrlon i ddeall ymddygiad y trawsnewidiad gwyrdd. Bydd mapio hefyd yn ymestyn y tu hwnt i ffocws cychwynnol Ynys Môn i gynnwys grwpiau cymunedol ym Mhontypridd a’r cyffiniau, i archwilio materion y trawsnewidiad gwyrdd sy’n effeithio ar gymoedd de Cymru.
Dywedodd yr Athro Scott Orford: “Mae cam cyntaf prosiect y Platfform Mapiau Cyhoeddus wedi bod yn hynod gynhyrchiol. Mae Tîm Data WISERD wedi bod yn allweddol wrth ddod â setiau data amrywiol a chymhleth am Ynys Môn ynghyd a’u harddangos mewn platfform mapio pwrpasol sydd wedi’i ddylunio o amgylch rhwyddineb defnydd.
“Y cam nesaf fydd ehangu a dyfnhau’r platfform, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i’n helpu i ddeall sut gall cymunedau ddod â haenau mapio ystadegol ac amlgyfrwng ynghyd i adrodd straeon pwysig am y lleoedd lle maent yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu, a sut gall hyn helpu i hwyluso’r trawsnewidiad gwyrdd yng Nghymru”.
Darllenwch fwy ar wefan prosiect y Platfform Mapiau Cyhoeddus.