WISERD yn adolygu cynllun y Comisiynydd Plant


The hands of four children painted with a symbol.

Dr Rhian Barrance yn adolygu’r cynllun Llysgenhadon Gwych

Dewiswyd ymchwilydd WISERD Dr Rhian Barrance i gynnal adolygiad o gynllun Llysgenhadon Gwych Comisiynydd Plant Cymru, a ddenodd 260 ysgol cynradd yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17.

Mae’r cynllun Llysgenhadon Gwych yn rhad ac am ddim i ysgolion gymeryd rhan ynddo. Ei fwriad yw codi ymwybyddiaeth o hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ymysg plant a gweithwyr mewn ysgolion cynradd. Mae e hefyd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o rôl Comisiynydd Plant Cymru ymysg plant a gweithwyr, a darparu ffordd i’r Comisiynydd gasglu barnau a phrofiadau plant yng Nghymru.

Bwriad yr adolygiad yw asesu effaith y cynllun, adnabod ei gryfderau a’i gwendidau, a datblygu argymellion i gynyddu defnydd ac effaith. Mae’r adolygiad yn un eang, ac wedi cynnwys cyfweliadau, holiaduron ac arsylwadau o sesiynau hyfforddi.

Dywedodd Dr Barrance: “Rwy’n falch cael y cyfle i gwblhau’r adolygiad hwn ar gyfer y Comisiynydd Plant. Oherwydd rhaglen i blant yw hi, rydw i wedi gweithio gyda grŵp ymgynghorol o blant a phobl ifanc, sydd wedi rhoi cymorth i mi wrth ddylunio’r holiadur a dewis cwestiynau ar gyfer cyfweliadau. Mae hyn wedi sicrhau bod yr ymchwil yn cyfeirio at farnau a phrofiadau plant.”

Llun: @superambs


Rhannu