Denodd stondin arddangos WISERD lawer o ddiddordeb yng nghynhadledd flynyddol Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn Wrecsam heddiw. Gallwn Gyda’n Gilydd: Cynigiodd Dathliad o Gyd-gynhyrchu a Chynhwysiant yng Nghymru gyfleoedd allweddol i rwydweithio a chysylltu ein gwaith â sefydliadau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Nod y diwrnod oedd ystyried llunio polisïau a gwasanaethau ar y cyd, a hybu’r hyn a ddisgrifiwyd gan y trefnwyr fel “ymdrechu gyda’n gilydd tuag at weledigaeth gyffredin: Cymru decach a mwy cynaliadwy lle mae llais gan bawb”.
Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i arddangos rhaglen ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD a rhannu ein canfyddiadau diweddaraf. Cymerodd ymchwilwyr WISERD ran mewn trafodaeth ynghylch cyd-gynhyrchu, darparu gofal cymdeithasol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014). Y Ddeddf oedd canolbwynt prosiect ymchwil WISERD dwy flynedd o hyd a arweiniwyd gan Gyd-gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Paul Chaney.
Amlygodd Dr Christala Sophocleous y cyfleoedd sy’n codi yn sgîl y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer cyd-gynhyrchu rhwng y trydydd sector a’r sector statudol o ran cyflwyno gofal. Datgelodd gynnydd cymysg – gan ddweud bod rhai sefydliadau anllywodraethol (NGOs) wedi trafod grymuso a chynyddu dylanwad ar ddylunio a chyflwyno gwasanaethau – tra bod eraill wedi amlygu cymhlethdod strwythurau cyflwyno newydd a’r heriau sy’n wynebu sefydliadau anllywodraethol llai wrth iddynt gystadlu â chyrff mwy i gael tendrau gan awdurdodau lleol.
Meddai’r Athro Paul Chaney: “Mae’r digwyddiad heddiw wedi bod yn gyfle da i amlygu’r ymchwil amrywiol a gynhelir gan WISERD ac i fagu cysylltiadau cyd-gynhyrchu gydag amryw sefydliadau”.