Cafodd yr Athro John Morgan ei wahodd i symposiwm ar ‘Ugain Mlynedd o Putin: Sut mae Rwsia wedi newid’ a gynhaliwyd yng Nghanolfan Rwsia a Dwyrain Ewrop yng Ngholeg St Antony, Prifysgol Rydychen, ar 7 Rhagfyr 2019.
Fe ddenodd y symposiwm arbenigwyr materion Rwsieg yn ogystal â chynrychiolwyr rhyngwladol eraill o feysydd academaidd, diplomyddiaeth a busnes rhyngwladol sy’n arbenigo yn y Rwsia gyfoes.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Athro John Morgan Civil Society, Social Change, and a New Popular Education in Russia, gyda Dr. Irina Trofimova a’r Athro Grigori A. Kliucharev, o Sefydliad Cymdeithaseg, Academi Rwsieg y Gwyddorau (Routledge, Llundain ac Efrog Newydd, 2019).
Wnaeth yr Athro John Morgan ymweld â Choleg St Antony’s eto ar 21-24 Ionawr 2020 ar gyfer ymchwil yng Nghanolfan Rwsieg a Dwyrain Ewropeaidd, ac i gyflwyno seminar i Ysgol Astudiaethau Lleoliad a Byd-eang Rydychen. Roedd y seminar yn trafod ‘Ffrynt Ddiwylliannol y Rhyfel Oer? UDA, Yr Undeb Sofietaidd, ac UNESCO’, yn seiliedig ar ei ymchwil Cymrodoriaeth Leverhulme Emeritws.