Ar hyn o bryd, mae Olivia yn astudio MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl treulio dwy flynedd yn Swyddog Sabathol yn Undeb Myfyrwyr Royal Holloway ac ennill gradd Baglor yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Royal Holloway. Yn ystod ei phrofiadau blaenorol, datblygodd ei hangerdd dros gynllunio digwyddiadau, ymgyrchu, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Yn ei rôl yn Swyddog Digwyddiadau, mae Olivia yn gyfrifol am gyflwyno digwyddiadau WISERD, gan gynnwys: Cynadleddau academaidd, digwyddiadau hyrwyddo, gweithdai, seminarau a hyfforddiant, a sesiynau meithrin gallu. Mae Olivia yn gweithio’n agos gyda Kirsten i gyflwyno amserlen brysur o ddigwyddiadau, yn ogystal â chreu strategaeth gyfathrebu i’w hyrwyddo. Gall Olivia eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â digwyddiadau.