Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo dulliau arloesol o ymgysylltu â dinasyddion – drwy dynnu ar ddirnadaeth ac arfer gorau byd-eang, a thrwy dreialu arfer arloesol yng Nghymru. Mae’r gwaith yn ystyried sut y gall dulliau creadigol a gweledol, gan gynnwys arferion cyfranogol creadigol, megis creu collage a ffotograffiaeth, wella llywodraethu cydweithredol trwy ddwysau deialog ac ystyriaeth wrth lunio polisïau. Mae’r dulliau hyn yn cynnig ffyrdd newydd i gymunedau fynegi profiadau byw, egluro eu dyheadau a’u blaenoriaethau polisi, ac ymgysylltu’n ystyrlon â strwythurau llywodraethu, â’r nod o gynyddu cyfranogiad dinasyddion wrth lunio polisïau gwledig.

 

Pobl, Lleoedd a’r Maes CyhoeddusLlywodraethu Cydweithredol a Gwleidyddiaeth Gydgynghorol