Bydd y prosiect hwn yn darparu asesiad annibynnol o’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud tuag at wneud Cymru yn genedl gwaith teg, a beth arall sydd angen ei wneud i hyrwyddo’r agenda hwn. Bydd yr ymchwil yn cynnal dadansoddiad eilaidd o setiau data presennol ac yn casglu data meintiol newydd ar agweddau ar waith teg trwy gwis swyddi ar-lein a all gasglu data gweithwyr am ansawdd gwaith ar raddfa fawr. Rhoddir pwyslais arbennig ar gymharu Cymru â rhannau eraill o’r DU ac ar archwilio ansawdd swyddi mewn ardaloedd daearyddol mwy manwl.

 

Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Gweithleoedd a Democratiaeth Gyfranogol