Bydd y prosiect hwn yn cynnal astudiaeth achos o drefniant Apeliadau Brys yr Ymgyrch Dillad Glân. Mae Apêl Frys yn ymateb cyflym i gais am gymorth gan weithwyr yn y diwydiant dillad pan fydd eu hawliau’n cael eu torri. Bydd y prosiect yn edrych ar effaith y system Apêl Frys wrth sicrhau Rhyddid i Gymdeithasu a nodau cyfunol eraill a osodwyd gan sefydliadau cymdeithas sifil y gwledydd cynhyrchu, a sut mae wedi cyfrannu at rymuso gweithwyr a mynd i’r afael ag anghydbwysedd pŵer mewn cadwyni cyflenwi byd-eang.

 

Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Gweithleoedd a Democratiaeth Gyfranogol