Mae’r ymchwil hon yn ystyried pwysigrwydd lle a gofod i gymunedau, gan fynd i’r afael â heriau allweddol ynghylch allgau ac ynysu cymdeithasol, effeithiau ac ysgogwyr tlodi, a chydlyniant cymunedol. Bydd yr ymchwil yn edrych ar ddatblygiad ac esblygiad canolfannau cynnes fel mannau sydd â chynhwysedd cymdeithasol a chysylltedd cymunedol yng Nghymru. Er bod ymchwil archwiliadol flaenorol wedi awgrymu bod y canolfannau’n gynhwysol, bydd yr ymchwil yn ystyried eu potensial i ymateb yn benodol i bobl sy’n wynebu allgau cymdeithasol sylweddol a thlodi, megis cyn-droseddwyr, y digartref, ceiswyr lloches a grwpiau bregus eraill.

 

Pobl, Lleoedd a’r Maes CyhoeddusEconomïau Lleol ac Arloesiadau’n Seiliedig ar Le