Gallwch ei lawrlwytho yma.
Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ystod o ddiwygiadau blaengar i’r cwricwlwm sydd wedi ceisio meithrin brwdfrydedd tuag at ddysgu, datblygu sgiliau a chymwyseddau academaidd allweddol a hybu dinasyddiaeth gref. Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygiad sylfaenol ac annibynnol o’r cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Mae’r Adolygiad, dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, yn ceisio cyfrannu at ddatblygiad ‘cwricwlwm cydlynol, perthnasol, heriol a gwerthfawr sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain’. Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru at yr Adolygiad Annibynnol hwn o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac Asesu yn cynnig strategaeth arloesol a chynhwysol ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r cwricwlwm yn y dyfodol. Mae’r Cais am Dystiolaeth yn ceisio mynd y tu hwnt i’r ‘bobl arferol’ ac fe wnaeth wahodd cyfraniadau a sylwadau na chyfyngwyd i ymatebion caeedig. Trwy wneud hyn, y gobaith oedd y byddai’r weithred hefyd yn ysgogi trafodaeth ‘genedlaethol’ am ddyfodol y cwricwlwm ac asesu yng Nghymru. Felly, mae’n darparu ffynhonnell dystiolaeth bwysig ochr yn ochr â gweithgareddau eraill yr Adolygiad, gan gynnwys grwpiau ffocws, ymweliadau, cyfarfodydd ac amrywiol adroddiadau gorchwyl a gorffen annibynnol a gomisiynwyd ar gyfer yr Adolygiad.
Fel rhan o’r Cais am Dystiolaeth, dosbarthwyd dau holiadur – ‘Holiadur i Oedolion’ a luniwyd i ran-ddeiliaid allweddol ei lenwi, gan gynnwys athrawon, rhieni/gofalwyr a sefydliadau, a ‘Holiadur i Blant a Phobl Ifanc’, a oedd yn fyrrach ond yn cynnwys rhai o’r un meysydd cyffredinol a’r fersiwn i ‘Oedolion’. Roedd y Cais wedi ennyn ymateb helaeth ac amrywiol. Cafwyd 364 o ymatebion i’r Holiadur i Oedolion – gan gynnwys llawer gan unigolion, grwpiau a sefydliadau o bob cwr o Gymru. Cafwyd 349 o ymatebion i’r Holiadur i Blant a Phobl Ifanc – yn cynrychioli dysgwyr ym mhob cyfnod allweddol o’r Cyfnod Sylfaen i addysg ôl-16.
Yn yr adroddiad hwn ar eu hymatebion, rydym wedi tynnu sylw at y themâu cyffredin a ddaeth i’r amlwg ac wedi sicrhau bod amrywiaeth yr ymatebion yn cael ei gynrychioli. Oherwydd bod yr holiaduron yn ddienw, ni wyddom ryw lawer am gefndir ein hymatebwyr ac, fel ym mhob arolwg o’r math hwn, gwyddom na fydd rhai lleisiau’n cael eu cynrychioli’n deg. Fodd bynnag, gwyddom fod pob sector, rhanbarth a rhan-ddeiliad allweddol yng Nghymru wedi’u cynnwys. Ac mae ehangder y safbwyntiau cyferbyniol a welir yn yr ymatebion yn awgrymu bod yr ymdrech gasglu tystiolaeth wedi sicrhau safbwyntiau amrywiaeth o bobl.