Mae pob testun, delwedd a chynnwys arall ar y wefan hon yn hawlfraint WISERD oni nodir yn benodol fel arall.

Ni ellir eu lawrlwytho neu eu copïo heb gael caniatâd yn gyntaf at ddibenion addysgu, gweinyddiaeth ac ymchwil o fewn WISERD, neu at ddefnydd personol, anfasnachol.

Os ydych yn dymuno atgynhyrchu cynnwys ein gwefan mewn unrhyw ffordd arall, neu at unrhyw ddiben arall, rhaid i chi’n gyntaf gysylltu â’r Swyddog Cyfathrebu i gael caniatâd.

Cysylltiadau allanol

Nid yw WISERD yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn y maent yn ei mynegi, neu’n sicrhau bod y wybodaeth y maent yn ei darparu’n gywir. Caiff unrhyw gyfeiriad gan WISERD drwy’r dolenni i safleoedd gwe allanol eu darparu fel mater o gwrteisi. Ni ddylid dehongli unrhyw gyfeiriad, drwy gyfrwng dolenni o’r fath, gan y defnyddiwr fel cymeradwyaeth gan WISERD o’r gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr allanol eraill. Dylai’r defnyddiwr fodloni ei hun bod y gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni, yr unigolyn neu’r darparwr allanol yn diwallu anghenion a gofynion y defnyddiwr yn briodol.
Nid yw WISERD yn derbyn cyfrifoldeb nac yn atebol am wasanaethau a ddarperir gan gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr  allanol eraill. Ymhellach, nid yw WISERD yn derbyn cyfrifoldeb nac yn atebol am gynnwys – neu wybodaeth a gynhwysir ar – y wefan sy’n perthyn i gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr allanol eraill neu ar gyfer unrhyw niwed a achoswyd neu sy’n codi mewn perthynas â hynny.

Firysau

Gwneir pob ymdrech i sicrhau nad yw cynnwys i’w lawrlwytho yn cynnwys firysau. Nid yw WISERD yn atebol am iawndal sy’n codi yn sgil haint feirws.

Nodau masnach

Mae pob nod masnach ar y safle hwn yn parhau’n eiddo i’w perchenogion unigol a chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod yn unig.