Prosiectau Ymchwil

Trefnu yn ôl: |
Dychwelodd eich chwiliad 5 canlyniad
Economïau Cynaliadwy a Gwyrdd

Un o’r heriau craidd i economïau lleol yw trawsnewid i economïau cynaliadwy a gwyrdd. Gan weithio gyda Chanolfan Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, byddwn yn mapio ac yn asesu arloesedd a gyd-gynhyrchwyd mewn economïau lleol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy, atal llifogydd, ymatebion i lygredd, rheoli tir ac…

Cyfalaf Diwylliannol ac Effeithiau Lleol

Mae cyfalaf diwylliannol yn adnodd ar gyfer datblygu lleol a datblygu’n seiliedig ar leoedd ac mae Datblygu’n Seiliedig ar Ddiwylliant yn fframwaith a gynlluniwyd i ymhelaethu ar fesur ac archwilio cyfalaf diwylliannol yn empirig fel adnodd mewndarddol sy’n seiliedig ar ficro-economeg ar gyfer datblygu rhanbarthol a datblygu’n seiliedig ar leoedd. Yn y cyd-destun hwn, bydd…

Effaith Gymdeithasol-Economaidd Llesiant

Mae llesiant yn flaenoriaeth polisi graidd yng Nghymru dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Sefydlodd Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ym mhob ardal awdurdod lleol gyda chyfrifoldeb statudol i gydlynu gwaith asesu a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r ymchwil yn cynnig persbectif newydd ar ddatblygu rhanbarthol drwy gyfuno’r polisïau hyn sy’n seiliedig ar…

Pontio i Addysg Uwch a thu hwnt: Lle, Hunaniaeth a Chyflogadwyedd Graddedigion

Bydd yr ymchwil hon yn edrych ar benderfyniadau myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a sut maent yn pontio i addysg uwch ynghyd â’u disgwyliadau a’u dyheadau yn dilyn astudiaethau israddedig. Bydd yn archwilio i ba raddau y mae ystyriaethau cyfleoedd cyflogaeth mewn cyd-destunau lleol a chenedlaethol yn llywio penderfyniadau a phontio i AU, a dyheadau…

Mentrau’n Seiliedig ar Leoedd ar gyfer Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Mae’r ymchwil hon yn ystyried pwysigrwydd lle a gofod i gymunedau, gan fynd i’r afael â heriau allweddol ynghylch allgau ac ynysu cymdeithasol, effeithiau ac ysgogwyr tlodi, a chydlyniant cymunedol. Bydd yr ymchwil yn edrych ar ddatblygiad ac esblygiad canolfannau cynnes fel mannau sydd â chynhwysedd cymdeithasol a chysylltedd cymunedol yng Nghymru. Er bod ymchwil…