Gwir effaith y coronafeirws ar genhedlaeth o blant o Gymru


Ar gyfweliad Ar-lein Cymru, dywedodd Dr Catherine Foster fod bywyd wedi “newid yn ddramatig” i lawer o bobl ifanc a ddioddefodd effeithiau fel unigrwydd a cholli trefn arferol.

Dywedodd: “Er bod rhai plant wedi gallu parhau i fynd i’r ysgol o leiaf rhan o’r amser, mae’r mwyafrif wedi colli’r drefn a’r strwythur y mae presenoldeb yn yr ysgol yn ei roi i bobl ifanc. Dangosodd ein harolwg [aml-garfan] o’r haf diwethaf fod dros 90% o’r disgyblion ysgolion uwchradd a arolygwyd yn gweld eisiau eu ffrindiau, bron i hanner yn gweld eisiau eu hathrawon a 70% o flwyddyn 10 yn poeni am fethu â dal i fyny â gwaith ysgol ar ôl dychwelyd.”

Arweiniodd Dr Jennifer Hampton (WISERD) astudiaeth Bydoedd Plant yng Nghymru. Datgelodd y dadansoddiad mai dim ond 44% o blant sy’n profi lefelau uwch o amddifadedd oedd â lle i astudio gartref, o’i gymharu ag 86% o blant nad oeddent yn profi amddifadedd materol.


Share