Crynodeb gweithredo

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ymchwil blaenorol a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol1 a oedd yn tystio i’r hyn a ddigwyddodd i ddau gorff cymunedol sefydledig2 , a oedd yn cyflwyno’ rhaglen Cymunedau yn Gyntaf3 yn lleol, rhwng y cyhoeddiad bod o rhaglen yn debygol o gau ym mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2018, pan gafodd ei therfynu mewn gwirionedd. Yn ogystal â dogfennu’r hyn a ddigwyddodd i’r ddau sefydliad cymunedol wrth iddynt golli staff ac incwm a cheisio ailsefydlu eu hunain, roedd yr ymchwil hefyd yn edrych ar y sefydliadau eu hunain. Beth oedd yn eu gwneud yn wahanol i fudiadau eraill yn y sector gwirfoddol, beth maent yn ei wneud, a beth yw eu gwerth yn eu barn hwy? Daethom i’r casgliad bod llawer o’r hyn roedden nhw’n ei wneud a’r hyn a werthfawrogwyd y tu hwnt i sylw unrhyw werthusiadau ffurfiol. Roeddent hefyd yn aml yn groes i ddisgwyliadau afrealistig Llywodraeth Cymru a’r wladwriaeth leol, a’r prosesau a osodwyd ganddynt, a allai fod yn niweidiol ar adegau. Fe wnaethom hefyd ddechrau defnyddio’r term ‘Cyrff Angori Cymunedol’, gan eu bod yn rhan o seilwaith cymdeithasol sy’n ymateb mewn llu o ffyrdd i bryderon ac uchelgeisiau cymunedol sy’n dod i’r amlwg. Pan fydd bygythiad i’w bodolaeth, mae bygythiad hefyd i we o gysylltiadau a phartneriaethau cynhyrchiol sy’n cysylltu unigolion a grwpiau cymunedol bach â’i gilydd, ac â sefydliadau a allai fod â’r grym a’r adnoddau i wella amodau byw ac amodau gwaith pobl.

Mae’r adroddiad hwn yn troi ei sylw at Gyrff Angori o rannau eraill o Gymru, rhai ohonynt wedi bodoli am yn hirach na’i gilydd. Er ein bod yn cydnabod y perygl o fod yn rhy barod i ddefnyddio’r term Cyrff Angori Cymunedol, fel term sy’n cyfeirio at bob corff cymunedol, gan anwybyddu cymhlethdodau’r cymunedau eu hunain, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig deall beth ydyn nhw, beth yw eu cyfraniad at les cymunedau, a sut maen nhw’n herio ac yn dylanwadu ar ddatblygu polisi, gwasanaethau cyhoeddus, ac economi Cymru gyfan.

Rydyn ni’n credu fod y papur hwn yn ategu datblygiadau cymunedol eraill ar lawr gwlad a datblygiad cymunedol wedi’u rhwydweithio yng Nghymru: Mudiad Cymunedol Cymru sydd wrthi’n cael ei sefydlu; rhwydwaith Talwrn; maniffesto’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau. Gyda’i gilydd, a gydag etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol ar y gweill, mae lle i ddylanwadu ac adfywio’r weledigaeth ar gyfer cymunedau Cymru ar ôl y pandemig.

1 https://productivemargins.blogs.bristol.ac.uk/projects/community-anchor-organisations/

2 Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol y 3G ym Merthyr Tudful a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon yng Nglan yr Afon, Caerdydd.

3 Rhaglen adfywio/gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru rhwng 2002-2018

 

Gwybodaeth Allweddol

 

Nodweddion canolog Cyrff Angori Cymunedol

  • Mae Cyrff Angori Cymunedol yn gweld eu hunain fel cyrff sy’n gwasanaethu cymunedau ystyrlon ac adnabyddus yn lleol, er nad ydynt o reidrwydd wedi cael eu sefydlu yn ôl ffiniau  gweinyddol ffurfiol. Mae eu hadeiladau, a’u gweithrediadau, yn symbolau pwysig o hunaniaeth ac adnoddau ar gyfer byw yn y gymuned.
  • Maent yn annibynnol ar y wladwriaeth ac yn cael eu rhedeg ar ran y gymuned, gan y gymuned (cyn belled ag y bo modd), ac (yn ddelfrydol) yn atebol i’r gymuned. Gallant fod yn bartneriaid i’r Wladwriaeth, a’u herio, yn ogystal â bod dan gontract iddi er mwyn darparu gwasanaethau a gomisiynwyd.
  • Maent yn gwbl wahanol i ganolfannau sy’n cael eu harwain gan Awdurdodau Lleol, ac ni ddylent gael eu camgymryd am hynny.
  • Maen nhw’n cael eu harwain gan werthoedd. Er bod hynny’n amlwg i wahanol raddau, eu cenhadaeth sy’n llywio popeth maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys strategaeth, cynhyrchu incwm, llywodraethu, staffio, defnydd o adeiladau, ac arferion gwaith. Ymdeimlad o degwch a chyfiawnder yw’r sail i’w hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth.
  • Maent wedi meithrin a datblygu gwybodaeth ac arbenigedd cyd-destunol dros y blynyddoedd drwy arferion sy’n canolbwyntio ar y ddeinameg yn y mannau lle maent wedi’u lleoli. Mae datblygu cymunedol ar sail asedau yn arfer craidd (proffesiynol) fel arfer, ac maent yn ystyried mai galluoedd pobl leol yw’r ased pwysicaf wrth ysgogi newid.
  • Fel arfer, mae cenhadaeth Cyrff Angori a sefydlwyd ers tro wedi ehangu ac arallgyfeirio ymhell y tu hwnt i’r un achos neu fater a sbardunodd eu sefydlu yn y lle cyntaf.
  • Mae’r wybodaeth a’r ymddiriedaeth y maent wedi’u meithrin yn eu galluogi i ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn briodol i bryderon lleol. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod Covid-19.
  • Maen nhw’n ganolog i we o berthnasoedd, rhwng pobl a grwpiau lleol yn fewnol, a gyda mudiadau eraill yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn allanol.

Sut maen nhw’n gweithredu

  • Mae’r rhan fwyaf o gyrff yn cael incwm o sawl ffynhonnell. Ar wahân i raglenni grantiau a chyllid i brosiectau, rhai o’r ffynonellau incwm eraill yw cyllid oportiwnistaidd, cyfraniadau lleol, rhoddion, cymynroddion neu’n ariannu eu hunain drwy gytundebau gwasanaeth neu fasnachu. Mae pob un ohonynt yn wynebu heriau o ran cynaliadwyedd ac o ran sicrhau eu bod yn aros yn driw i’w cenhadaeth graidd yn wyneb gofynion cyllido.
  • Er bod strwythurau’r sefydliadau’n amrywio, mae rolau’n cael eu cyfuno fel arfer, gyda rheolwyr hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau rheng flaen. Yn aml, mae diwylliant cryf o ddirprwyo, ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn ffyrdd gwasgaredig. Mae meithrin gallu yn hanfodol ar bob lefel o gyfranogi (bwrdd, staff a gwirfoddolwyr), er ei fod yn cymryd llawer o amser.
  • Ystyrir bod arweinyddiaeth yn allweddol i sefydliad llwyddiannus. Fodd bynnag, nodwyd bod angen cymryd gofal i beidio â chael arweinyddiaeth arwrol unigol, a rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth wasgaredig a chydnabod a meithrin sgiliau arwain ar draws y sefydliad.
  • Yn gyffredinol, mae ymdrech i gyflogi pobl leol sy’n golygu bod teithiau i’r gwaith yn fyrrach ac yn wyrddach; bod cyfrifoldebau gofalu pobl yn cael eu diwallu’n well; a bod pobl yn prynu ac yn siopa’n lleol.
  • Mae adeiladau a’u perchnogaeth yn rhoi ymdeimlad gweledol o hunaniaeth leol i’r sefydliadau, lle diogel i ymgynnull, ymdeimlad o berchnogaeth leol a ffordd o atgyfnerthu ymdeimlad o annibyniaeth. Fodd bynnag, mae cyfnodau clo COVID-19 wedi bod yn her wrth geisio dod o hyd i leoedd a gweithgareddau eraill i gyflawni nodau tebyg.
  • Mae gan fudiadau cymunedol ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu hyder i gymryd rhan mewn cymdeithas ac roedd dicter bod y canlyniadau hyn yn cael eu hystyried yn rhai ‘meddal’. Darparwyd enghreifftiau o brosiectau, ac arferion datblygu cymunedol creiddiol, lle’r oedd datblygu hyder a dysgu, yn ddiarwybod, wedi arwain at bobl yn ymgymryd â rolau arwain 3 neu’n ymgymryd â mathau o addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ffurfiol na fyddai wedi digwydd fel arall.

Perthnasoedd a Rhwydweithiau

  • Cymysg yw’r profiad o weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, gan ddibynnu’n aml  ar natur perthnasoedd unigol a ddatblygwyd dros amser. Ar hyn o bryd, mae rhagnodi cymdeithasol yn faes lle mae perthynas gynhyrchiol yn cael ei meithrin gyda gofal sylfaenol a Byrddau Iechyd Lleol. Fodd bynnag, teimlai llawer o Gyrff Angori nad yw staff awdurdodau lleol yn deall beth maen nhw’n ei wneud. Yn ogystal, pan fod cyrff cyhoeddus yn eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau, maent yn ystyried eu bod yn eilradd mewn perthynas hierarchaidd rhwng cleientiaid a chontractwyr.
  • Mae’r posibilrwydd fod syniadau Cyrff Angori’n cael eu ‘coloneiddio’ – effaith y gog – yn un o’r peryglon sy’n codi o weithio gyda’r sector cyhoeddus. Gallai cydgynhyrchu liniaru’r perygl hwn, ond nid yw cyrff cyhoeddus yn deall sut i ymgysylltu drwy ddulliau gwirioneddol gyd-gynhyrchiol.
  • Mae unrhyw bwerau sy’n cael eu cadw gan Gyrff Angori yn deillio’n bennaf o’u hannibyniaeth oddi wrth y wladwriaeth a’u bod yn gweithredu’n wahanol i gyrff cyhoeddus. Siapiwyd hunaniaeth unigol llawer o Gyrff Angori gan y gwrthgyferbyniad hwn â beth/pwy nad ydyn nhw.
  • Ceir ymdeimlad gwan o hunaniaeth ar y cyd â Chyrff Angori eraill yng Nghymru, sy’n egluro, ynghyd â diffyg adnoddau ac amser, pam nad oes llais cenedlaethol unedig cryf gan y sector penodol hwn ar hyn o bryd.

Cyfeiriad i’r Dyfodol?

  • Mae’n ymddangos bod dadansoddiad o rôl Cyrff Angori mewn cymdeithas sifil, a’u gwerth iddi, yn llawer mwy datblygedig yn yr Alban nag yng Nghymru.
  • Ystyried Cyrff Angori Cymunedol yn ôl meddylfryd yr economi sylfaenol ac arloesi ochr yn ochr â chyrff angori eraill. Yn benodol, mae rôl bwysig gan brifysgolion, fel cyrff angori, o ran datblygu agenda ymchwil wirioneddol gyd-gynhyrchiol gyda Chyrff Angori Cymunedol ledled Cymru.
  • Mae’r ffaith na all Cynghrair Gymunedol yr Alban ganfod “dim enghreifftiau o rymuso cymunedol parhaus heb ryw gorff [angori] o’r fath, sydd wedi’i wreiddio’n lleol” yn ddatganiad pwerus. Mae hefyd angen craffu ymhellach arno a’i weithredu mewn cyd-destun Cymreig, er gwaetha’r dirywiad ymddangosiadol yn yr elfen Grymuso ym mholisi cymunedol Llywodraeth Cymru ar ôl Cymunedau yn Gyntaf.