Mae Rhian yn Gyfarwyddwr Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD ac yn Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, lle mae’n dysgu ar fodiwlau addysg a chymdeithaseg.

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys hawliau plant, asesu a thegwch mewn addysg, a mudiadau cymdeithasol plant. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect ar weithredaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn ystod ei chyfnod yng Nghaerdydd mae wedi cwblhau dau brosiect ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru, gan gynnwys adolygiad o dystiolaeth ar hawliau dynol plant yng Nghymru.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, cwblhaodd Rhian ei PhD mewn Addysg yn y Ganolfan Hawliau Plant, Prifysgol Queen’s Belfast. Prosiect dulliau cymysg oedd hwn a ddefnyddiodd ddull hawliau plant i nodi barn a phrofiadau myfyrwyr o gymwysterau TGAU a’u diwygio yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Tra roedd hi’n cwblhau ei doethuriaeth bu’n gweithio’n Gymrawd Ymchwil ar brosiect Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Queen’s Belfast yn ymchwilio i ragweladwyedd arholiadau Tystysgrif Gadael yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Rolau cynghori ychwanegol:

  • Ymddiriedolwr Chwarae Cymru
  • Mae Rhian yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd ar y Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol Ecwiti a Chynhwysiant a sefydlwyd i gefnogi Strategaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.
  • Mae Rhian ar fwrdd golygyddol y Welsh Encyclopaedia of Social Sciences (Esboniadur Gwyddorau Cymdeithasol).
Rhian Barrance Bio