Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw, a ysgrifennwyd gan Alan Felstead a Rhys Davies, sy’n cynnig tystiolaeth newydd am natur cyflogadwyedd yng Nghymru. Mae Gweithio yng Nghymru 2006-2017: Tystiolaeth o’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn cynnig cipolwg gwerthfawr – o safbwynt gweithwyr – ar nifer o faterion gan gynnwys hyrwyddo gwaith teg; gwella’r defnydd o sgiliau a’u datblygu’n well; a nodi arloesedd yn y gweithle fel ffynhonnell gwella cynhyrchiant.
Er bod llawer o ffynonellau data yn helpu i roi dealltwriaeth fanwl o’r farchnad lafur yng Nghymru, mae prinder data ynghylch ansawdd neu degwch swyddi pobl a’u profiadau o waith – y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei dalu iddyn nhw. Mae’r Arolygon Sgiliau a Chyflogaeth yn cyfrannu rhywfaint at lenwi’r bwlch hwn yn y dystiolaeth. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017, yr un diweddaraf, ynghyd â’i ragflaenwyr yn 2012 a 2006. Mae’r arolygon hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar fywydau gwaith pobl Prydain, a hynny cyn dirwasgiad 2008-2009 ac wedi hynny. Gyda chefnogaeth hwb penodol i samplau’r arolwg yng Nghymru, mae cyfweliadau manwl, awr o hyd, wedi cael eu cynnal wyneb yn wyneb gyda 1,449 o weithwyr sy’n byw yng Nghymru fel rhan o’r tair ton dan sylw. Trwy ddefnyddio’r data hyn, mae’r astudiaeth hon yn edrych ar sut mae profiad gweithwyr Cymru yn ystod y degawd diwethaf wedi bod yn wahanol i rannau eraill o Brydain, a sut mae’r profiadau hyn eu hunain wedi amrywio rhwng grwpiau gwahanol o bobl.
Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn a chrynodeb o’r prif ganfyddiadau yma: https://llyw.cymru/arolwg-sgiliau-chyflogaeth-gweithio-yng-nghymru-2006-i-2017?_ga=2.5122224.268646343.1556885953-1473116359.1536759783.