WISERD yng Nghynhadledd Ymchwil Flynyddol Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)


Paul Chaney on stand at NCVO Annual Research Conference 2019

Denodd stondin WISERD gryn ddiddordeb gan y cynadleddwyr

Cafodd canfyddiadau ymchwil WISERD i gymdeithas sifil sylw amlwg yng Nghynhadledd Flynyddol Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) ym Mhrifysgol Aston yr wythnos ddiwethaf (10-11 Medi). 

Cyflwynodd ymchwilwyr WISERD nifer o bapurau. Bu’r myfyriwr PhD Amy Sanders yn eu mysg, a rhannodd ganfyddiadau cychwynnol ei hymchwil ynghylch cynnal hygrededd sefydliadol partneriaeth rhwng y trydydd sector a’r wladwriaeth. Wrth iddi ymgymryd ag achos y bartneriaeth trydydd-sector statudol yng Nghymru, ystyriodd Amy gryfderau a chyfyngiadau’r cysylltiad sefydliadol hwn rhwng y llywodraeth a’r trydydd sector a ddyluniwyd i hyrwyddo llywodraethu cynhwysol.

Ar sail cyfweliadau â sefydliadau trydydd sector sy’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd, dangosodd cyflwyniad Amy sut gall y bartneriaeth ehangu dylanwad polisi i’r rheini y tu allan i’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hefyd yn pwyntio at heriau a materion cynrychioliadol y clywir am eu llais drwy strwythurau’r bartneriaeth. Yn ei dro, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch hygrededd sefydliadol.

Adroddodd yr Athro Paul Chaney (yn y llun uchod) am ganfyddiadau’r astudiaeth gychwynnol ynghylch ‘arbrawf’ newydd yn narpariaeth lles trydydd sector Cymru (‘plwraliaeth les is-wladwriaethol’). Mae hyn yn dod yn sgîl cyfraith newydd sy’n rhoi dyletswydd ar lywodraeth leol i hyrwyddo’r defnydd o ddarparwyr gwasanaeth gofal cymdeithasol gwirfoddol (i bobl hŷn, plant, pobl anabl, pobl agored i niwed, ac ati.)

Archwiliodd cyflwyniad yr Athro Chaney y cyfaddawdau rhwng ymddiriedaeth a thryloywder mewn rhwydweithiau polisi, a phatrymau a phrosesau gwahaniaethol ymddiriedaeth dinasyddion, mewn gwahanol fodelau o gyflwyno lles trydydd sector sy’n troi o gwmpas y wladwriaeth. Gellir cael manylion am yr astudiaeth ar ein gwefan.


Share