Tyfu i Fyny yng Nghymru: safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr ysgol


Growing up in Wales - school students' perspectives and experiences - postcard 2 - CYM

Roedd ein digwyddiad diweddar, Tyfu i Fyny yng Nghymru: safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr ysgol, wedi archwilio canfyddiadau diweddaraf data arolwg Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS).

Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae’r WMCS wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddeall bywydau pobl ifanc yng Nghymru, drwy gynnal arolwg blynyddol o dros 1,000 o bobl ifanc wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau drwy’r ysgol. Mae natur hydredol yr astudiaeth hon yn allweddol er mwyn gweld sut mae safbwyntiau pobl ifanc yn newid dros amser.

Mae llawer o’r data rydym wedi bod yn ei gasglu’n ymwneud â phrofiadau addysgol, ac roedd ysgolion ar draws Cymru wedi cymryd rhan. Rydym wedi casglu safbwyntiau pobl ifanc ynghylch eu hathrawon, tripiau ysgol, pam ofynnwyd iddynt adael yr ystafell ddosbarth a pham iddyn nhw gael cyfnod dan gadw yn yr ysgol. At hynny, buom yn eu holi am y pynciau TGAU y maent wedi’u dewis, a’u hymwybyddiaeth ynghylch addysg alwedigaethol.

Rydym hefyd wedi eu holi am dyfu i fyny yng Nghymru yn fwy cyffredinol, yn cynnwys eu hymwybyddiaeth o Senedd Ieuenctid Cymru a’u hymgysylltiad â’r sefydliad, eu barn a’u profiadau ynghylch arian a gamblo, ‘technoference’ a sut maen nhw’n treulio eu hamser y tu allan i’r ysgol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ymarferwyr, sefydliadau trydydd sector a llunwyr polisïau drafod y canfyddiadau diweddaraf gyda’r tîm ymchwil, a nodi meysydd allweddol ar gyfer ymchwil bellach.

Growing up in Wales - school students' perspectives and experiences - postcard 3 - CYM

Yn ôl yr Athro Sally Power, arweinydd yr astudiaeth: “Mae’r WMCS yn adnodd amhrisiadwy sy’n rhoi cipolwg i ni ar farn a phrofiadau pobl ifanc Cymru, wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau drwy’r ysgol. Rydym yn gallu cymharu’r modd y mae safbwyntiau a phrofiadau un garfan yn newid wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn, a chymharu ar draws carfannau. Mae hynny’n cynnig cipolwg unigryw ar eu bywydau, ac un y dylai ennyn diddordeb pawb sydd ynghlwm wrth les presennol pobl ifanc Cymru, a’r hyn y gallant ei ddisgwyl yn y dyfodol.”

 

Lawrlwytho cardiau post y canfyddiadau.


Share