Pum neges allweddol i’r rheiny â dementia a’u gofalwyr yn ystod cyfnod COVID-19


Snapshot of IDEAL Project Dementia leaflet

Mae’n debygol bod pobl sydd â dementia ac yn byw yn y gymuned yn debygol o gael eu heffeithio’n anghymesur gan fesurau cadw pellter cymdeithasol, ymneilltuo a chyfyngiadau’r cyfnod clo.

Mae Cyfarwyddwr Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, yn rhan o raglen ymchwil ‘Gwella profiadau o Dementia a Gwella Byw’n Actif’ (prosiect IDEAL). Ar sail canfyddiadau ymchwil, mae’r tîm newydd gyhoeddi dwy daflen am sut i ofalu am eich hun yn ystod pandemig y Coronafeirws, ar gyfer pobl â dementia ac aelodau o’u teuluoedd, neu gefnogwyr eraill sy’n rhoi gofal di-dâl. Mae’r rhain i’w gweld ar ein gwefan bellach.

Mae’r taflenni y gellir eu lawrlwytho yn rhan o ‘Fenter Dementia COVID-19 IDEAL’, sy’n ceisio helpu pobl â dementia a’u gofalwyr i reoli effeithiau seicolegol a chymdeithasol y pandemig a’i oblygiadau, fel cadw pellter cymdeithasol, ymneilltuo a’r cyfnod clo. Maent yn cynnwys pum prif neges ac awgrymiadau syml am sut i:

1)    Gadw’n ddiogel ac yn iach
2)    Cadw mewn cysylltiad
3)    Cynnal ymdeimlad o bwrpas
4)    Cadw’n actif
5)    Cynnal ymagwedd gadarnhaol

Mae’r taflenni hefyd yn rhestru’r ffynonellau mwyaf dibynadwy o wybodaeth, gan gynnwys gwefannau a llinellau cymorth. Caiff yr adnoddau hyn eu hadolygu a’u diweddaru dros y misoedd nesaf, gan gyfrif am y pryderon y mae pobl â dementia a’u gofalwyr yn eu mynegi drwy gyfrwng ystod o fforymau a chyfweliadau ffôn a gynhelir gan ymchwilwyr rhaglen IDEAL.

Cafodd y daflen ei pharatoi â chyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Gwerthfawrogir cefnogaeth NHIR yn fawr. Ymhlith partneriaid y prosiect y mae: Uned Polisi Pobl Hŷn a Bregus NIHR; Cymdeithas Alzheimer; Arloesiadau ym maes Dementia; Partneriaeth Ymchwil Gymhwysol NIHR Gorynys y De-orllewin; Prifysgol Caerwysg; Prifysgol Manceinion; Prifysgol Bradford; Prifysgol Brunel, Llundain; Prifysgol Abertawe.


Rhannu