Trosolwg:

Mae’r astudiaeth garfan arhydol hon, gan ddefnyddio dulliau cymysg, yn canolbwyntio ar y potensial i fyw’n dda gyda dementia o safbwynt pobl â dementia a’u prif ofalwyr Trwy fyw’n dda, rydym yn golygu gwneud y mwyaf o foddhad mewn bywyd, cyrraedd eich potensial ar gyfer lles, a phrofi’r ansawdd bywyd gorau posibl yng nghyd-destun yr heriau y mae dementia yn eu cyflwyno i unigolion, perthnasoedd a chymunedau. Byddwn yn dwyn ynghyd arbenigedd o seicoleg, cymdeithaseg, meddygaeth, iechyd y cyhoedd, economeg, polisi cymdeithasol, ffisioleg ac ystadegau i archwilio’n fanwl yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu galluogi i fyw’n dda gyda dementia. 

 

Rhagor o wybodaeth:
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.idealproject.org.uk

 

Darllenwch y canllawiau IDEAL diweddaraf ar gyfer pobl â dementia a’u gofalwyr, mewn perthynas â COVID-19:

Gymraeg:

 

Saesneg: