Gellid gwella cynhyrchiant y DU trwy symud yn barhaol i weithio o bell, dengys ymchwil


Laptop with a mug next to it.

Hoffai naw o bob deg gweithiwr sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny i ryw raddau, mae ymchwil yn awgrymu.

Mae’r adroddiad, gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton, yn cyflwyno’r dadansoddiad cyntaf o ddata arolwg gweithwyr sy’n canolbwyntio ar weithio gartref, a gasglwyd ar gyfer Understanding Society Covid-19 Study.

Mae gweithio gartref wedi cynyddu ers dechrau’r cyfnod clo – gan godi o 6% o weithwyr cyn y pandemig i 43% ym mis Ebrill eleni. Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod cynhyrchiant ymhlith mwyafrif y rhai a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo wedi aros yn sefydlog neu hyd yn oed wedi gwella, o’i gymharu â chwe mis ynghynt.

Dywedodd yr Athro Alan Felstead, o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD): “Am nifer o flynyddoedd, mae gweithio gartref wedi cynyddu’n araf, ond ers dechrau’r pandemig, mae bellach yn beth cyffredin. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y bydd newid mawr yn y gweithle traddodiadol, hyd yn oed pan nad yw cadw pellter cymdeithasol yn ofyniad mwyach.”

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar dri arolwg ar-lein o weithwyr a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill, Mai a Mehefin 2020.  Roedd pob arolwg yn holi sampl gynrychioliadol o 6,000-7,000 o weithwyr a oedd wedi gweithio o leiaf awr yn yr wythnos cyn y cyfweliad ac wedi cyflwyno gwybodaeth ar ble roeddent yn gweithio cyn ac yn ystod y cyfnod clo.

Mae canlyniadau arolwg Mehefin 2020 yn awgrymu yr hoffai 88% o weithwyr a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i weithio gartref i ryw raddau, gyda thua un o bob dau (47%) o weithwyr eisiau gweithio gartref yn aml neu trwy’r amser.

Gallai rhoi hyblygrwydd i weithwyr o ran ble maent yn gweithio fod yn hynod fuddiol i gwmnïau wrth iddynt geisio adfer ar ôl Covid-19.

Yr Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil

Dywedodd dau o bob pump (41%) o’r rhai a holwyd eu bod yn gallu gwneud cymaint o waith wrth weithio gartref ym mis Mehefin 2020 o’i gymharu â chwe mis ynghynt pan oedd y mwyafrif, ond nid pob un ohonynt, yn gweithio y tu allan i’r cartref.  Dywedodd mwy na chwarter (29%) eu bod yn cyflawni mwy gartref, ond dywedodd 30% fod eu cynhyrchiant wedi gostwng.

Mae’r effaith ar gynhyrchiant yn amrywio yn ôl pa mor aml roedd gweithwyr yn gweithio gartref.  Nododd y rhai a oedd yn gweithio gartref weithiau neu yn aml eu bod yn cynhyrchu llai pan wnaethant hynny, tra bod gweithwyr oedd yn gweithio gartref trwy’r amser wedi nodi cynnydd mewn cynhyrchiant.  O’r gweithwyr hynny a nododd fod eu cynhyrchiant wedi gostwng, dywedodd tri allan o ddeg ohonynt (29%) fod ganddynt lai o waith i’w wneud a dywedodd tua chyfran debyg (27%) fod eu hallbwn yr awr wedi’i gyfyngu gan yr angen i roi gofal i aelodau’r teulu a/neu addysgu’r plant yn y cartref.

Mae data’r arolwg hefyd yn awgrymu bod gweithio gartref yn y dyfodol yn debygol o hybu yn hytrach na lleihau cynhyrchiant; roedd gweithwyr a oedd yn teimlo’n fwy cynhyrchiol wrth weithio gartref yn ystod y cyfnod clo ymhlith y rhai mwyaf brwd i weithio gartref pan nad yw rheolau cadw pellter cymdeithasol yn berthnasol mwyach. Mae’r ‘effaith ddethol’ hon yn debygol o fod yn fanteisiol i gyflogwyr sy’n awyddus i oresgyn heriau effaith Covid-19.

Ychwanegodd yr Athro Felstead: “Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw yr hoffai llawer o’r rhai sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i weithio fel hyn, hyd yn oed pan nad yw rheolau cadw pellhau cymdeithasol yn ofynnol iddynt mwyach. Mae’r bobl hyn ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol, felly nid yw eu hatal rhag dewis sut maen nhw’n gweithio yn y dyfodol yn gwneud synnwyr economaidd. Gallai rhoi hyblygrwydd i weithwyr o ran ble maent yn gweithio fod yn hynod fuddiol i gwmnïau wrth iddynt geisio adfer ar ôl Covid-19.”

Dywedodd Dr Darja Reuschke, o Brifysgol Southampton, cyd-awdur yr adroddiad: “Mae strydoedd siopa canol y ddinas wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig ac maent yn debygol o aros yn dawel am gryn amser wrth i lai o bobl ddychwelyd i weithleoedd traddodiadol. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni ailgynllunio canol ein dinasoedd fel lleoedd aml-ddefnydd sy’n darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddiau economaidd ac nad ydynt wedi’u hadeiladu o amgylch ffyrdd cyflym sy’n cysylltu gweithleoedd â phreswylfeydd.”

Mae’r adroddiad: Homeworking in the UK: Before and during the 2020 lockdown.


Rhannu