Yn dechrau fis Ionawr 2020, mae WISERD yn rhan o gydweithrediad a ariennir gan ERSC o’r enw Hwb Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (PrOPEL).

Dan arweiniad Prifysgol Strathclyde, mae Hwb PrOPEL yn dod â phump o fuddsoddiadau ynghyd a ariannwyd gan ESRC yn ddiweddar sy’n gweithio ym maes cynhyrchedd.  Nod Hwb PrOPEL yw helpu i wella cynhyrchedd a lles yn y gwaith drwy gefnogi twf gweithleoedd gwell yn y DU.

Mae’n cynnwys partneriaid o brifysgolion ledled y DU a’r CIPD.  Drwy faethu cydweithrediad rhwng y gwahanol bartneriaid, rhannu canfyddiadau ymchwil a chynnal digwyddiadau wedi’u targedu ar gyfer busnes, nod yr hwb yw edrych ar y ffordd orau o drawsnewid cynhyrchedd drwy reoli arferion rheoli ac ymgysylltiad gweithwyr.

Ei nod yw cynnig gwersi, syniadau a phecynnau cymorth i fusnesau, sy’n cynnwys y dystiolaeth ac ymchwil ddiweddaraf.  I gael rhagor o wybodaeth am PrOPEL, ewch i wefan y prosiect:  https://www.propelhub.org/