Cwestiynau ymchwil

•    Ym mha ffyrdd y mae anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hystyried yn y broses o ddatblygu’r cwricwlwm?

•    Beth yw’r cyfleoedd a’r heriau o ddatblygu’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ADY?

•    I ba raddau y ceir aliniad canfyddedig rhwng diwygio’r cwricwlwm a’r rhaglen trawsnewid ADY?

Nodau
Prif nod yr ymchwil hon yw ymchwilio i’r ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i ADY wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, gan gyfeirio’n benodol at ddysgwyr mewn addysg brif ffrwd. Un o’r nodau eilaidd yw archwilio’r aliniad rhwng diwygiad cyfredol y system ADY a’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Cefndir
Ystyrir bod addysg gynhwysol yn golygu mwy na gwahaniaethu, ac mae’n cynnwys dealltwriaeth athrawon o’r ffactorau sy’n cynhyrchu gwahaniaethau rhwng dysgwyr, sydd, yn ei thro, yn dibynnu ar gredoau, agweddau a gwerthoedd athrawon (Kershner, 2015). Yr her, o ran y gallu sydd gan ddatblygiad proffesiynol i ddiwallu anghenion unigol, yw sicrhau newid yn y rhyngweithio rhwng yr hyn y mae athrawon yn ei wybod, ei gredu a’i wneud (Florian, 2008) (gweler Ffigur 1). Mae disgyrsiau addysgol, er enghraifft, mewn perthynas â’r hyn a olygir gan ddysgu a natur anghenion dysgu unigol, yn ddylanwad cryf ar athrawon ac yn ffynhonnell y maent yn ei defnyddio wrth lunio barnau am ddysgwyr a’r hyn sydd ei angen arnynt (Ellis a Tod, 2014; Winch ac eraill, 2015). Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru, cwricwlwm am oes, yn defnyddio disgwrs o degwch, cyfle cyfartal a chynwysoldeb, gan gyflwyno arfer da fel yr hyn sy’n cefnogi dysgu pob disgybl (Donaldson, 2015; Llywodraeth Cymru, 2015a). Nod y prosiect hwn yw archwilio sut mae anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd, gan gynnwys pa ddisgyrsiau, gwerthoedd a syniadau sy’n cael eu defnyddio gan weithwyr proffesiynol allweddol. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar y sector prif ffrwd lle addysgir y mwyafrif o ddysgwyr ADY.

 

Sampltriangle with "knowing, doing, believing" on each vertex
Arweinwyr polisi ac arweinwyr cynhwysiant sydd ynghlwm wrth waith datblygu’r cwricwlwm a/neu waith diwygio ADY. Ymarferwyr mewn dwy ysgol arloesol (un ysgol gynradd / un uwchradd) sydd ill dwy ag Arloeswr Dysgu Proffesiynol (N = 8).

 

Dull 
Mae cyfweliadau lled-strwythuredig unigol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Lluniwyd amserlenni cyfweld ar gyfer arweinwyr polisi ac ar gyfer ymarferwyr arloesol.
Mae’r meysydd a archwilir mewn cyfweliadau yn cynnwys: y rhan y mae cyfranogwyr yn ei chwarae, os o gwbl, wrth ddatblygu’r cwricwlwm, safbwyntiau ar ADY ac addysgeg, ADY ac adnabod, ADY a chynnydd, a gwybodaeth, arloesedd ac atebolrwydd athrawon o dan drefniadau newydd. Gofynnir i’r cyfranogwyr hefyd am eu barn ar yr aliniad rhwng y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm a’r broses o drawsnewid ADY. Bydd cyfweliadau wedi’u trawsgrifio’n llawn a’u dadansoddi’n thematig.