Lansiwyd Addysg WISERD yn 2012 er mwyn newid tirlun ymchwil addysgol yng Nghymru. Prif nodau’r Rhaglen oedd:
• gwella’r capasiti i gynnal ymchwil addysgol o ansawdd o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru;
• ymgymryd â gweithgareddau ymchwil sydd â’r nod o wella ansawdd dysgu a safonau addysgu ac addysg athrawon yng Nghymru;
• ymgymryd â gweithgareddau trosiadol i ehangu llythrennedd ymchwil y rheiny sy’n addysgu athrawon, ymarferwyr, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid eraill;
• rhoi seilwaith ar waith a fydd yn sicrhau y gellir cynnal y capasiti a’r gweithgarwch hwn yn y tymor hir, gan arwain at gydnabyddiaeth gynyddol o ymchwil addysg o safon yng Nghymru mewn ymarferion asesu ymchwil ar draws y DU yn y dyfodol.
Cafodd y Rhaglen ei harwain gan yr athro Sally Power a’r Athro Chris Taylor, Cyd-Gyfarwyddwyr Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn yr adroddiad hwn, rydym ni’n amlinellu’r cynnydd rydym ni wedi’i wneud o ran bodloni’r amcanion hyn. Mae pob adran yn trafod un o amryw ddimensiynau gweithgareddau Addysg WISERD, gan gynnwys uchafbwyntiau a digwyddiadau allweddol. Mae crynodeb o sut rydym ni wedi bodloni pob un o ddangosyddion perfformiad Addysg WISERD wedi’i ddarparu yn yr adran derfynol.
Credwn fod Addysg WISERD wedi gosod y sylfeini ar gyfer adeiladu cymuned ymchwil gryf a chynaliadwy yng Nghymru – sylfeini yr ydym ni’n gobeithio parhau i gryfhau yn y blynyddoedd i ddod.