Safbwyntiau Newydd ar Ymfudo: Symposiwm Rhithiwr ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa a Myfyrwyr Ôl-raddedig


protest sign saying 'refugees are human beings' with a cartoon heart

Cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru symposiwm ar-lein ar 19 Ionawr ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud ag agweddau o ymfudo yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru.

Thema’r symposiwm oedd ‘Safbwyntiau Newydd ar Ymfudo’. Roedd y cyflwyniadau’n ymdrin â meysydd ymchwil yn amrywio o Eidalwyr yng Nghymru, menywod sy’n ffoaduriaid a Chymreictod, a’r heriau sy’n wynebu ymfudwyr dan orfodaeth LGBTQ+ yng Nghymru, i wyliadwriaeth gwrth-fewnfudo yng Ngwlad Groeg a rôl mosgiau yng Nghaerdydd.

Cymerodd academyddion ar draws pum prifysgol bartner WISERD (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru) ran ac roedd y digwyddiad yn lle cefnogol i ymchwilwyr rannu syniadau ar ddrafftiau a derbyn sylwadau adeiladol.

Cyflwynwyd amrywiaeth o waith a oedd yn ystyried mudo trwy lensys hanesyddol, llenyddol a gwleidyddol ac a oedd, ar adegau, yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng ffaith a ffuglen a pholisi o gymharu â phrofiad personol. Cafodd y themâu allweddol canlynol eu codi droeon drwy gydol y dydd; pwysigrwydd cynnal hunaniaeth, ennill parch, a’r angen i adeiladu mwy o gydlyniant cymunedol.

Dywedodd Rhys Dafydd Jones, sy’n arwain y Rhwydwaith, ochr yn ochr â Catrin Wyn Edwards (y ddau o Brifysgol Aberystwyth): “Cyflwynwyd amrywiaeth fawr o bapurau yn y symposiwm, gan adlewyrchu’r amrywiaeth gyfoethog o ymchwil ar ymfudo sy’n digwydd ar hyn o bryd. Roedd yn wych clywed am wahanol astudiaethau achos a dulliau, ac fe wnaeth y trafodaethau fy ysgogi i feddwl ymhellach am rai o’r pwyntiau am weddill y diwrnod.”

Sefydlwyd Ymchwil Ymfudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithredu rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau Cymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil ar ymfudo, ac i ddod ag academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gydag ymfudwyr ar faterion sy’n effeithio ar ymfudwyr ynghyd. Mae digwyddiadau pellach ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod, cadwch lygad ar wefan WISERD am ragor o fanylion.


Rhannu