Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad Ymchwil Mudo Cymru. Rhwydwaith ymchwil newydd yw hwn, a gydlynir gan Dr Catrin Wyn Edwards a Rhys Dafydd Jones (ill dau o Brifysgol Aberystwyth). Ymrwyma’r rhwydwaith i ddatblygu capasiti ymchwil, ac i annog deialog rhwng academyddion mewn sefydliadau Cymreig, a rhwng academyddion ac ymarferwyr.

Mae ymfudo yn thema sydd wedi rhedeg trwy sawl prosiect WISERD a gwaith cysylltiedig, ond mae’r rhyngweithio rhwng yr astudiaethau hyn wedi bod yn gyfyngedig hyd yma. Bydd y rhwydwaith yn hwyluso rhyngweithio rhwng ymchwilwyr a chanolfannau ymchwil ymfudo mewn sefydliadau yng Nghymru (a’r rheini mewn mannau eraill sy’n archwilio ymfudo yng Nghymru) a rhwng academyddion yn y sefydliadau hyn a rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gydag ymfudwyr ac ar faterion sy’n effeithio ar ymfudwyr i, yn, ac o Gymru. Mae’r rhwydwaith yn adeiladu ar – yn hytrach na dyblygu – gwaith a wnaed mewn canolfannau ymchwil presennol ac yn annog cydweithredu rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil ymfudo.
Mae’r rhwydwaith wedi ymrwymo i ddatblygu capasiti ymchwil. Mae digwyddiadau wedi’u cynllunio o amgylch datblygu ymchwil gyrfa newydd a gyrfa gynnar a chefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar, gan gynnwys dwy gynhadledd ar-lein ar gyfer myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, a dau weithdy ynghylch methodoleg arloesol a chreadigol ar gyfer ymchwil ymfudo. Ynghyd â’r lansiad a’r brif ddarlith ym mis Gorffennaf 2021, byddwn hefyd yn cynnal sesiwn ar-lein ar ‘sicrhau effaith y tu hwnt i ymchwil’ yn yr hydref.

Bydd y rhwydwaith yn annog deialog rhwng ymchwilwyr ymfudo a rhanddeiliaid ac ymarferwyr yn y maes, gyda’r nod o sicrhau bod ein hymchwil yn cyfrannu at lunio polisi ar sail tystiolaeth wrth lywodraethu ymfudo ac yn ei lunio. Rydym yn bwriadu cynnal cyfres o sesiynau ar-lein a gynhelir gan gydweithwyr ledled Cymru sydd â phrofiad o ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru a thu hwnt.