Y pandemig a thu hwnt – canfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD


Impact of COVID-19 on learning infographic postcard

Mae’r data diweddaraf a gasglwyd fel rhan o Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn datgelu’r lefelau uwch o bryder a brofir gan bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud ac effeithiau parhaus tyfu i fyny yng Nghymru ar ôl y pandemig. Roedd bron pob un (93%) o’r disgyblion yn teimlo bod y pandemig wedi effeithio ar eu dysgu ac mae dros hanner (57%) yn meddwl y bydd Covid yn lleihau eu cyfleoedd i deithio yn y dyfodol.

Pan ofynnwyd “Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn y flwyddyn nesaf”, yr ymateb ysgubol oedd “Dydw i ddim yn gwybod”, gan adlewyrchu’r teimlad o ansicrwydd rydyn ni i gyd wedi dod yn gyfarwydd ag ef yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fodd bynnag, yn hytrach na lleddfu’r straen ynghylch Covid a’i effeithiau ar ddysgu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae’n ymddangos bod cyflwyno rhaglen frechu wedi gwaethygu’r pryderon hyn ymhellach i rai. Dim ond hanner y bobl ifanc yn ein harolwg oedd yn credu bod y brechlyn yn ddiogel.

Roedd cwestiynau pellach am brofiadau pobl ifanc o’r pandemig, ynghyd â materion eraill sy’n bwysig iddynt, yn sail i arolwg blynyddol eleni, a gasglodd ymatebion gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ym mlynyddoedd 7, 9 ac 11.

Yn dilyn carfannau olynol o bobl ifanc o dros 20 o ysgolion uwchradd ledled Cymru, mae natur hydredol yr astudiaeth hon yn allweddol i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cymharu data. Bydd hyn yn dod yn fwyfwy pwysig dros y blynyddoedd nesaf wrth i Gymru ddechrau rhoi ei chwricwlwm ysgol newydd ar waith. Bydd y WMCS mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu tystiolaeth o’r graddau y mae newidiadau yn y cwricwlwm yn effeithio ar brofiad pobl ifanc o’r ysgol.

Darllenwch fwy yn ein set ddiweddaraf o gardiau post dwyieithog am ein canfyddiadau. Gallwch eu llwytho i lawr yma neu ofyn am gopïau caled.

 

Data wedi’u casglu o ymatebion disgyblion ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7, 9 ac 11, Mehefin-Gorffennaf 2021.


Rhannu