Yn ystod ei gyrfa ymchwil yn Ieithyddiaeth, mae Laura wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil ar forffogystrawen dafodieithol yr iaith Romani ac ar Gwrdeg (Kurdish) tra ym Mhrifysgol Manceinion. Yn yr un sefydliad y gwnaethodd ei gradd PhD ar agweddau o gystrawen a semanteg y Gymraeg yn 2015.

Ers dychwelyd i Gymru, mae Laura wedi gweithio ar ddarpariaeth bedagogaidd i ieithyddiaeth gyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ar ffurf e-gyfeirlyfr Cyflwyniad i ieithyddiaeth, ac ar greu adnoddau i ymchwil ar yr iaith Gymraeg fel rhan o brosiect CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes – ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, roedd yn ddarlithydd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saenseg mewn amryw o brifysgolion gan gynnwys Bangor a Chaerdydd.

Fel rhan o brosiect ymchwil yr Astudiaeth Aml-garfan, bydd Laura yn canolbwyntio ar agweddau disgyblion at yr iaith Gymraeg a’u sgîl-effeithiau ar nod y llywodraeth o gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg.

Laura Arman Bio