Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Cymdeithasol: 17/2019

Mae hybu ffyniant i bawb yn un o amcanion allweddol polisi Llywodraeth Cymru. Mae gwneud Cymru yn genedl gweithio teg yn un ffordd o gyrraedd y nod hwn. Adlewyrchir hyn yn Ffyniant i bawb: y Strategaeth Genedlaethol, y Cynllun Gweithredu Economaidd a’r Cynllun Cyflogadwyedd. Mae hybu llesiant sy’n gysylltiedig â swyddi yn nodwedd sy’n diffinio gwaith teg, ac am y rheswm hwn, nid yw’n syndod bod olrhain a hybu agweddau penodol ar waith yn cael eu cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae defnyddio sgiliau, datblygu’r gweithlu a chynhyrchiant hefyd yn feysydd lle cydnabyddir bod angen gwelliannau.

Yn y cyd-destun hwn, mae gwir angen am dystiolaeth gadarn i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y meysydd hyn. Er bod llawer o arolygon yn helpu i roi dealltwriaeth fanwl o’r farchnad lafur yng Nghymru i ni, mae prinder data ynghylch ansawdd neu degwch swyddi pobl a’u profiadau gwaith – y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei dalu iddyn nhw. Mae’r Arolygon Sgiliau a Chyflogaeth yn cyfrannu rhywfaint at lenwi’r bwlch hwn yn y dystiolaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017, yr un diweddaraf, ynghyd â’i ragflaenwyr yn 2012 a 2006. Mae’r arolygon hyn yn rhoi cipolwg unigryw ar fywydau gwaith pobl Prydain, a hynny cyn dirwasgiad 2008-2009 ac wedi hynny. Gyda chefnogaeth hwb penodol i samplau’r arolwg yng Nghymru, mae cyfweliadau manwl, awr o hyd, wedi cael eu cynnal wyneb yn wyneb gyda 1,449 o weithwyr sy’n byw yng Nghymru fel rhan o’r tair ton dan sylw. Trwy ddefnyddio’r data hyn, mae’r astudiaeth hon yn edrych ar sut mae profiad gweithwyr Cymru yn ystod y degawd diwethaf wedi bod yn wahanol i rannau eraill o Brydain, a sut mae’r profiadau hyn eu hunain wedi amrywio o un grŵp sosio-economaidd i’r nesaf.