Yn Swyddog Digwyddiadau, mae Rory yn gyfrifol am ddarparu digwyddiadau Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ledled Cymru, sydd yn amrywio o gynadleddau academaidd ar raddfa fawr, i seminarau a hyfforddiant mewnol a sesiynau meithrin gallu. Mae Rory yn gweithio’n agos gyda’r tîm ymgysylltu i gyflwyno amserlen brysur o ddigwyddiadau, yn ogystal â chreu strategaeth gyfathrebu i’w hyrwyddo. Gall eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â digwyddiadau.

Roedd Rory gynt yn Gynorthwyydd Gweinyddol Ymgysylltu WISERD a chyn hynny bu’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu cymorth gweinyddol yn ystod rhaglen frechu a phrofi torfol COVID-19.

Mae gan Rory BA mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Caerwysg.