Heddiw (dydd Iau 1 Rhagfyr) mae YDG Cymru wedi datgelu eu Rhaglen Waith Arfaethedig a fydd yn helpu i daflu goleuni ar y materion allweddol y mae Cymru a’r DU yn eu hwynebu.
Mae Rhaglen Waith Arfaethedig YDG Cymru 2022-2026 yn amlinellu’r deg maes thematig y bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil arnynt i helpu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu cymdeithas. Mae’r ddogfen yn amlinellu gwaith y tîm sydd ar y gweill ar Newid yn yr Hinsawdd, y Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Iechyd a Lles, Tai a Digartrefedd, Iechyd Meddwl, Sgiliau a Chyflogadwyedd, Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Cymdeithasol, a rhaglen i fynd i’r afael â Heriau Cymdeithasol Mawr newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r meysydd thematig yn adeiladu ar lwyddiant YDG Cymru, gan fynd i’r afael â saith o’r meysydd thematig hyn dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ogystal â’r tair thema newydd, sef Newid yn yr Hinsawdd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Heriau Cymdeithasol Mawr, mae tîm YDG Cymru wedi nodi eu cynlluniau i hybu cyfleoedd hyfforddiant a chapasiti ar gyfer y gymuned dadansoddwyr data, ac ymrwymiad i’r Gymraeg, ymgysylltu parhaus â’r cyhoedd, a chynaladwyedd yn eu gwaith.
Cyhoeddwyd y ddogfen yng nghartref Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (top yn y llun), a siaradodd o blaid gwaith YDG Cymru. Mynychwyd y digwyddiad gan sefydliadau ar draws y dirwedd cysylltu data, gan gynnwys gweithwyr polisi proffesiynol, academyddion a darparwyr data.
Mae YDG Cymru yn cysoni ei waith â’r meysydd allweddol a nodwyd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio annibyniaeth academaidd ac arbenigedd tîm o ymchwilwyr, dadansoddwyr a gwyddonwyr data arbenigol.
Wrth siarad yn y lansiad a noddir gan Rebecca Evans, dywedodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Stephanie Howarth, Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru (uchod): “Gall data, wedi’u dad-adnabod a’u cysylltu’n ddiogel, ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod proses llunio polisïau yng Nghymru a’r DU wedi’i chyfeirio, gan helpu yn y pen draw i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer y bobl sy’n byw yma. Rydym wrth ein bodd y gall YDG Cymru helpu i lywio’r broses benderfynu hon.”
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru ac Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe, David Ford (uchod): “Hyd yma, mae ein gwaith eisoes wedi cynhyrchu mewnwelediadau sydd wedi helpu i lunio meysydd allweddol o bolisi cyhoeddus yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn a pharhau i gynnwys y cyhoedd yn llawn wrth i ni hyrwyddo arferion data diogel sy’n dangos budd cyhoeddus defnyddio data heb fanylion adnabod fel sail i wneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU.”
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol: “Yng Nghymru, rydym yn cysylltu data heb fanylion adnabod a gesglir gan wasanaethau cyhoeddus i helpu i lywio polisi, penderfyniadau gweithredol, a’n rhaglen ddeddfwriaethol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei yrru ymlaen gan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru – ein partneriaeth addysg uwch a Llywodraeth Cymru. Mae cyflawniadau’r cydweithio hyn hyd yma yn enghraifft o pam rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n rhanddeiliaid. Gwyddwn y gallwn wneud cymaint yn fwy gyda’n gilydd.
“Mae’r cynllun YDG Cymru 2022-26 hwn yn adeiladu ar raglenni gwaith sefydledig mewn meysydd datganoledig, megis addysg a thai, ac yn cyflwyno themâu ymchwil newydd i lywio’r argyfwng newid yn yr hinsawdd a materion cymdeithasol pwysig, gan gynnwys costau byw.”
Mae’r gwaith a wneir gan YDG Cymru yn bosib diolch i fuddsoddiad o bron i £17m hyd at 2026 fel rhan o’r buddsoddiad o £90 miliwn ledled y DU yn Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).
Wedi’i sefydlu yn 2018 fel rhan o ADR UK, mae YDG Cymru yn uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd â dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Mae tîm YDG Cymru yn cynnwys academyddion blaenllaw sydd ag arbenigedd yn y materion blaenoriaeth y mae’r genedl yn eu hwynebu. Gyda’i gilydd, mae YDG Cymru yn gweithio i sicrhau y defnyddir mewnwelediadau a thystiolaeth weinyddol amserol i helpu i wneud penderfyniadau polisi gwybodus ar gyfer pobl Cymru. Hyd yn hyn, mae tîm YDG Cymru wedi arwain y ffordd ar dechnegau dadansoddi data blaengar a rhagoriaeth ymchwil, gan weithio ochr yn ochr â’r Banc Data SAIL byd-enwog i ddarparu ymchwil cadarn, diogel ac addysgiadol. Mae YDG Cymru wedi cynhyrchu dadansoddiad sylweddol dan arweiniad ymchwilwyr i lywio meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru mewn tai, llesiant, y blynyddoedd cynnar, addysg a sgiliau, iechyd meddwl, ac yn fwyaf diweddar y pandemig Covid-19.
Roedd y newyddion hwn i’w weld ar wefan ADR Cymru yn wreiddiol.