Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig (ADR UK)

Mae’r ESRC, fel rhan o UKRI, yn ariannu buddsoddiad pwysig newydd mewn seilwaith ymchwil i wneud y gorau o botensial data gweinyddol i fod yn adnodd ar gyfer ymchwil o safon uchel yn y DU. – Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK).  Nod ADR UK yw cynnwys cymunedau llywodraethol ac academaidd mewn ymchwil arloesol er mwyn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr drwy ryddhau potensial cyfoeth data gweinyddol y DU. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, bydd ADR UK yn gweithio mewn partneriaeth â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i:

  • Caffael a churadu data gweinyddol yn strategol a sicrhau bod y rhain ar gael i ymchwilwyr mewn ffordd ddiogel
  • Datblygu ymchwil ac effaith o safon uchel ym maes themâu polisi sy’n cael eu blaenoriaethu yn y DU.

 

Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru (ADR Cymru)

Mae ADR Cymru – sy’n rhan o ADR UK (Ymchwil Data Gweinyddol y DU) –  yn uno arbenigwyr ym mhob maes, gan gynnwys Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, ag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru.

Mae’r technegau dadansoddi data blaengar a’r rhagoriaeth ymchwil sydd wedi’u datblygu, ynghyd â Chronfa Ddata SAIL fyd-enwog, yn golygu bod modd cyflwyno ymchwil gadarn, ddiogel ac addysgiadol i greu tystiolaeth sy’n hysbysu penderfyniadau polisi yng Nghymru yn y dyfodol.  Mae’r bartneriaeth mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud y gorau o ddefnyddioldeb data dienw a diogel i lywio’r ffordd y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno, a bydd hyn yn y pen draw yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2019-2020 ADR UK.