Archwilio’r cysylltiadau rhwng gwahardd o’r ysgol a digartrefedd ieuenctid


 

Nod y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd yw deall y prosesau cyd-destunol a sefydliadol sy’n arwain at wahanol fathau o wahardd ffurfiol ac anffurfiol o’r ysgol a’r canlyniadau i bobl ifanc a waharddwyd, eu teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill ledled y DU. Ymunodd Jemma Bridgeman o’r tîm Bywydau wedi’u Gwahardd ym Mhrifysgol Caerdydd â Monika Conti o End Youth Homelessness Cymru (EYHC) i gyd-flogio am y cysylltiadau rhwng gwahardd o’r ysgol a digartrefedd ieuenctid.

 

Mae ymchwil flaenorol ac ystadegau’r llywodraeth yn dangos bod achosion o wahardd o’r ysgol yn llawer mwy tebygol o effeithio ar ddisgyblion sy’n perthyn i grwpiau penodol (er enghraifft, teuluoedd incwm isel) neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae ymchwil gan Samariaid Cymru’n esbonio bod gwahardd o’r ysgol yn broblem fawr sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb – mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol os bydd anghydraddoldeb cymdeithasol, fel tlodi ac anabledd, a/neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn effeithio arnynt. Unwaith y bydd person ifanc wedi’i wahardd o’r ysgol, meddant, gall effeithiau andwyol hynny – ynghyd ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, dirywiad mewn iechyd meddwl a’r risg o ddigartrefedd – greu cylch hunanbarhaol lle mae anghydraddoldeb yn ymsefydlu.

Mae gan EYHC fap ffordd i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru mewn ffordd gydweithredol. Mae’n dwyn ynghyd yr hyn a wyddom a’r hyn y dylem ei wneud i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid. Ac yntau’n seiliedig ar ymchwil EYHC sy’n mwyhau llais ieuenctid yn benodol, mae’r map ffordd yn edrych ar y strategaethau sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r map ffordd yn esbonio y gall troi cefn ar systemau cymdeithasol, gan gynnwys yr ysgol, ochr yn ochr â thlodi, gynyddu’r risg o ddigartrefedd ieuenctid. Mae’r map ffordd yn dweud wrthym fod llawer o bobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref wedi cael profiadau trawmatig yng nghwmni oedolion yn gynnar yn eu bywydau. Mae’n dweud wrthym hefyd nad oes ganddynt oedolion ac athrawon dibynadwy a chefnogol, na mentoriaid da eraill, i’w helpu i feithrin a datblygu perthnasoedd. Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru’n esbonio bod pobl â phrofiad bywyd o ddigartrefedd saith gwaith a hanner yn fwy tebygol o fod yn absennol yn aml o’r ysgol, o’u cymharu â disgyblion a oedd yn anaml neu byth yn absennol.

Mae’n amlwg bod pobl ifanc sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol mewn mwy o berygl o fod yn ddigartref yn ifanc, yn ogystal â dioddef o amrywiaeth o ganlyniadau negyddol eraill, fel unigrwydd ac ynysigrwydd a salwch meddwl. Drwy gydweithio ledled y DU, bydd y prosiect ymchwil yn helpu i wella dealltwriaeth o’r patrymau a’r tueddiadau sy’n gysylltiedig â gwahardd o’r ysgol ar draws y pedair awdurdodaeth ac yn dechrau archwilio sut y gallai gwahardd o’r ysgol fytholi anghydraddoldeb a gwneud digartrefedd ieuenctid yn fwy tebygol.

 

Llun: Shutterstock


Share