Diardell O Addysg

Mae Bywydau wedi’u Gwahardd (Excluded Lives) yn brosiect amlddisgyblaethol ar draws pedair awdurdodaeth y DU dan arweiniad Adran Addysg Prifysgol Rhydychen ac mewn partneriaeth â phrifysgol Rhydychen, Caerdydd, Caeredin, Queen’s Belfast, a’r LSE.

Nod cyffredinol y prosiect hwn yw rhoi dadansoddiad cynhwysfawr ac amlddisgyblaethol o’r polisïau, yr arferion a’r costau gwahanol ynghlwm wrth waharddiadau ffurfiol, anffurfiol ac anghyfreithlon o’r ysgol, a hynny ledled y DU.

Bydd y prosiect yn trin a thrafod y cyd-destunau gwahanol ynghlwm wrth wahardd yn ogystal â phrofiadau’r bobl ifanc dan sylw.

Bydd yr ymchwil hon yn rhoi’r sylfaen i ddeall goblygiadau economïau gwleidyddol gwahanol, gwella penderfyniadau llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â gwella profiadau disgyblion a’u teuluoedd.

Trefnir yr ymchwil yn dair ffrwd gwaith:

Ffrwd A: Cyd-destunau gwahardd

Mae pecynnau gwaith Ffrwd A yn edrych ar y ffyrdd y mae polisïau a fframweithiau cyfreithiol yn llunio ymyraethau gyda’r amcan o atal gwaharddiadau; y costau ariannol ynghlwm wrth wahardd; a phatrymau a nodweddion gwahardd.

Ffrwd B: Profiadau gwahardd

Bydd pecynnau gwaith Ffrwd B yn canolbwyntio ar brofiadau teuluoedd, disgyblion a gweithwyr proffesiynol o’r peryglon a’r goblygiadau yn sgîl gwahardd.

Ffrwd C: Costau a Chanfyddiadau

Bydd Llinyn C yn gwerthuso’r costau yn sgîl gwahardd o’r ysgol ar lefel yr unigolyn, y sefydliad a’r system; yn gwneud dadansoddiadau mewn awdurdodaethau unigol ac ar eu traws; ac yn cyfuno’r canfyddiadau hyn mewn ffordd amlddisgyblaethol a llawn.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Excluded Lives.