Cyflwynir gan Chloe Weaver (Seicolegydd Addysgol dan Hyfforddiant, Prifysgol Caerdydd)

Mae amserlen lai yn cyfyngu ar fynediad plentyn at gwricwlwm amser llawn. Yng Nghymru, ar hyn o bryd nid oes unrhyw sail statudol na phrosesau cyfreithiol i sefydlu amserlen lai. Mae llenyddiaeth flaenorol yn awgrymu , er bod amserlenni llai yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer disgyblion ag anghenion meddygol, eu bod yn cael eu defnyddio’n amlach ar gyfer disgyblion sy’n profi heriau ymddygiadol. Disgrifir y dull hwn fel dull lled-wahardd sy’n peri pryder ac o bosibl yn aml,y gellir ei ddefnyddio fel cynnyrch yr agenda cynhwysiant, a all roi pwysau ar ysgolion i ymarfer fel ffordd o osgoi gwaharddiadau ffurfiol.

Archwiliodd yr astudiaeth bresennol y defnydd presennol o amserlenni gostyngedig ledled Cymru ar gyfer pobl ifanc sy’n mynegi emosiynau ag ymddygiad allanol, a’r modd y maent yn cael eu cynnal. Mabwysiadwyd cynllun dulliau cymysg i ddeall y defnydd o amserlenni llai. Er mwyn deall eu defnydd yn genedlaethol, dosbarthwyd holiadur ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Archwiliwyd y profiad o gefnogi person ifanc ar amserlen lai trwy gyfweld ag ymarferwyr sy’n gweithio gyda nhw. Mae’r themâu a ddatblygwyd yn ystyried anghenion pobl ifanc ar amserlenni llai, sut y cânt eu defnyddio ar draws ysgolion, a’r effaith a gânt ar bobl ifanc, eu teuluoedd, a staff ysgol. Trafodir y goblygiadau mewn perthynas ag ysgolion, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, a Seicolegwyr Addysg.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260