Mae’r cwrs hwn ar gyfer dadansoddwyr y mae angen iddynt wneud penderfyniadau ar sail data. Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fawr o brofiad o ddefnyddio R, sef: yr iaith raglennu ystadegol. Mae R yn iaith raglennu ffynhonnell agored bwerus sy’n cael ei defnyddio’n eang ar gyfer gwaith dadansoddi o bob math. Mae gan R hefyd alluoedd graffigol helaeth.
Mae’r cwrs yn cyfuno dwy elfen: delweddu data (graffeg), a phrofi damcaniaethau’n ystadegol (y broses gwneud penderfyniadau).
Mae’r rhan delweddu data wedi’i chynllunio i ymdrin â graffeg amrywiol, gan gynnwys:
- Histogramau
- Plotiau dwysedd
- Plotiau cwantil-cwantil
- Siartiau bar
- Siartiau cyfres sengl
- Siartiau cyfresi lluosog (wedi’u stacio a heb eu stacio)
- Plotiau blwch-wisgeren
- Plotiau gwasgariad
- Llinellau ffit orau
- Plotiau gwasgariad aml-amrywedd
- Graffeg sy’n allforio
Mae’r rhan profi damcaniaethau wedi’i chynllunio i roi sylw i’r adnoddau dadansoddi sylfaenol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n sylfaen i waith dadansoddi ystadegol. Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Profi sut mae data’n cael ei ddosbarthu (dosbarthu arferol)
- Profion gwahaniaethau:
- Prawf t ar gyfer data sy’n cael ei ddosbarthu fel arfer
- Prawf U ar gyfer data amharametrig
- Cyfatebiaeth
- Profion cyswllt:
- Prawf cyswllt chi (x) sgwâr
- Prawf llwyddiant y ffit
- Dadansoddi amrywiant ar gyfer profi samplau lluosog
- Modelu atchweliad
Pwy a allai elwa o’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl y mae angen iddynt drin a thrafod data a gwneud penderfyniadau ar sail y data hwnnw. Byddai rhywfaint o wybodaeth am R yn ddefnyddiol, ond nid oes angen gwybodaeth arbennig am ystadegau.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260