Mae anabledd yn gysylltiedig ag anfantais sylweddol yn y farchnad lafur yn rhyngwladol, ond er gwaethaf y ddadl bod undebau llafur yn gweithio fel ‘cleddyf cyfiawnder’ ac yn amddiffyn y gweithwyr sydd dan anfantais fwyaf, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i gwneud i’r berthynas rhwng undebau llafur ac anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd yn y farchnad lafur.
Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn cynnig tystiolaeth newydd i’r DU sy’n rhoi gwybodaeth bwysig i undebau, sefydliadau cydraddoldeb a llunwyr polisïau sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd yn y farchnad lafur.
Drwy ddefnyddio data o ddau arolwg cenedlaethol cydategol mawr, sef yr Arolwg Chwarterol o’r Llafurlu a’r Arolwg Cysylltiadau Cyflogaeth yn y Gweithle, rydym yn gweld gwahaniaeth mewn aelodaeth o undebau llafur sy’n gysylltiedig ag anabledd yn y DU. Hynny yw, mae gweithwyr ag anabledd rhwng 12% a 14% yn fwy tebygol o fod yn aelod o undeb na gweithwyr nad oes ganddynt anabledd, yn dilyn diystyru gwahaniaethau mewn nodweddion eraill fel rhai personol a rhai sy’n ymwneud â’r gwaith.
Mae hyn yn awgrymu bod i aelodaeth o undeb fanteision amlwg neu go iawn ychwanegol i weithwyr ag anabledd o’u cymharu â gweithwyr nad oes ganddynt anabledd. I gyd-fynd â hyn, gwelwn ei bod yn llawer gwell gan weithwyr ag anabledd, o’u cymharu â gweithwyr nad oes ganddynt anabledd, i’r undeb eu cynrychioli wrth geisio gwella eu hamodau gwaith.
I’r gwrthwyneb, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod gwahaniaeth mewn bylchau cyflog anabledd neu gyfraddau cadw staff blynyddol rhwng y rhai sy’n aelod o undeb a’r rhai nad ydynt yn aelod o undeb, fel y byddem yn ei ddisgwyl pe bai undebau’n effeithiol o ran amddiffyn gweithwyr ag anabledd. Ar sail y mesurau hyn, gwelwn, felly, fod rôl undebau o ran lleihau anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd yn y farchnad lafur yn gyfyngedig, a’n hawgrym yw bod angen astudio ymhellach yr hyn sy’n sbarduno’r gwahaniaeth mewn aelodaeth o undebau llafur sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Darllenwch yr erthygl yn llawn.
Cydnabyddiaeth: Hawlfraint y Goron yw’r deunydd o’r Arolwg Chwarterol o’r Llafurlu a’r Arolwg Arhydol o’r Llafurlu, a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi trefnu ei fod ar gael. Cafodd data Arolwg Cysylltiadau Cyhoeddus yn y Gweithle 2011 eu casglu gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, a hynny ar ran yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Cafwyd gafael ar bob arolwg drwy Archif Data’r DU. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar yr ymchwil sy’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Menter ar y cyd yw WISERD rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe. Cafodd yr ymchwil y mae’r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â hi ei gwneud drwy Gymdeithas Sifil WISERD – Canolfan Haenu Dinesig ac Atgyweirio Sifil, sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhif y grant: ES/S012435/1).
Credyd delwedd: shironosov trwy iStock.